Albwm Jarman yn cael sylw ail bodlediad Albyms Arloesol
Mae Y Selar wedi cyhoeddi’r bennod ddiweddaraf o’u podlediad newydd, Albyms Arloesol. Nod y podlediad ydy mynd o dan groen rhai o’r recordiau Cymraeg mwyaf eiconig a dylanwadol, gan roi llwyfan i leisiau newydd drafod cerddoriaeth ar yr un pryd.