Albwm newydd Gruff Rhys ar y gorwel
Mae Gruff Rhys wedi datgelu manylion ei albwm Cymraeg newydd fydd yn cael ei ryddhau ym mis Medi eleni, ac mae’r blas cyntaf o’r albwm ar gael nawr.
Mae Gruff Rhys wedi datgelu manylion ei albwm Cymraeg newydd fydd yn cael ei ryddhau ym mis Medi eleni, ac mae’r blas cyntaf o’r albwm ar gael nawr.
Mae’r cerddor indie amgen o’r canolbarth, Ffredi Blino, wedi rhyddhau ei sengl newydd. ‘Bannau Brycheiniog’ ydy enw’r sengl newydd ganddo ac mae’n fersiwn Gymraeg o’r trac ‘Brecon Beacons’ gan y band enwog Supergrass a ymddangosodd ar eu halbwm ‘Life on Other Planets’ o 2002.
Mae’r band ifanc addawol o Gaerdydd, Taran, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddar’ – ‘Troi’n Aur’ ydy enw’r trac diweddaraf i lanio gan y band ac mae allan ar label JigCal.
Mae’r artist o Ddyffryn Teifi, Cate Le Bon, wedi rhyddhau ei sengl newydd wrth ddatgelu y bydd albwm yn dilyn ganddi ym mis Medi eleni.
Mae’r artist electronig cyffrous Tokomololo wedi cyhoeddi fideo o sesiwn fyw arbennig ar ei safle YouTube.
Mae’r band Cyn Cwsg wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, sy’n flas pellach o’r hyn sydd i ddod ar eu EP newydd. ‘Only Time’ ydy trac newydd sydd allan nawr ar label Lwcus T.
Mae’r band o ardal Y Bala, Mynadd, wedi gollwng eu halbwm cyntaf ar eu safle Bandcamp ac ar CD, wythnos cyn iddo lanio ar yr holl lwyfannau digidol arferol.
Mae’r cerddor addawol o Sir Gâr, Harry Luke, yn paratoi i ryddhau ei sengl nesaf ar 13 Mehefin. Er ei fod yn cyfansoddi a pherfformio ers sawl blwyddyn cyn hynny, daeth Harry Luke i amlygrwydd yn ddiweddar ar gyfres deledu Y Llais ar S4C.
Mae Gŵyl y Gogs, a gynhelir yn Y Bala, wedi cyhoeddi manylion yr arlwy gerddorol eleni. Cynhelir yr ŵyl ar benwythnos 29-30 Awst ac mae’r trefnwyr wedi datgelu pa artistiaid fydd yn perfformio.