Cyfle cyntaf i glywed…’Pydru’ gan Patryma
Bydd grŵp roc amgen newydd o ardal Caernarfon, Patryma, yn rhyddhau eu hail sengl ddydd Gwener yma, 31 Gorffennaf. ‘Pydru’ ydy enw sengl newydd y grŵp, ac mae’n bleser gan Y Selar roi’r cyfle cyntaf i chi glywed y trac.