Pump i’r Penwythnos 18 Tachwedd 2016

Mae hi’n glamp o benwythnos o ran cynnyrch newydd felly dim prinder o bethau ar gyfer eich ffics cerddorol wythnosol trwy garedigrwydd Y Selar.

Gig: Rogue Jones, DJ Fflyffilybybl, Red or Dead, Cai Thomas, Double Vision, Ali Tommis, Owain Llyr Parri – Bandiau er Budd Ffoaduriaid, Stad y Faenol ger Bangor. Sadwrn 19 Tachwedd

Er bod llwyth o gynnyrch newydd yn cael ei ryddhau wythnos yma, mae fel petai pawb wedi gwneud eu gigs lansio’n barod gyda thaith ddiweddar HMS Morris, R. Seiliog yn gigs Make Noise Cymru a CaStLeS yn cynnal eu gig lansio nos Fawrth.

Ond, mae sengl newydd Rogue Jones, ‘Gogoneddus yw y Galon’, allan heddiw hefyd, ac i ddathlu maen nhw’n perfformio mewn gig at achos teilwng dros ben, sef Bandiau er Budd Ffoaduriaid.

Mae’r gig yn Dr Zigs ar Ystad y Faenol ger Bangor, yn dechrau am 18:00 ac yn cynnwys swp o artistiaid amrywiol a diddorol.

Cân: ‘Mantra’ – Tusk

Rydan ni’n gyffrous iawn ynglŷn â’r artist amgen newydd yma o Fethel.

Mae ei EP cyntaf allan heddiw, a gallwch ddysgu mwy amdano yn ein cyfweliad arbennig ar wefan Y Selar.

Mae cwpl o draciau’r EP wedi bod ar Soundcloud cyn hyn, ac rydan ni’n arbennig o hoff o ‘Mantra’ sy’n cynnwys llais neb llai nag Iwan Fôn o Y Reu. #tiiiiwn

Artist: CaStLeS

Rydan ni eisoes wedi rhoi sylw i albwm CaStLeS fel ein dewis o record wythnos diwethaf. Ond gan mai heddiw ydy diwrnod rhyddhau’r albwm yn swyddogol, mae’n rhaid i ni roi mensh iddyn nhw, felly nhw ydy artist ‘Pump i’r Penwythnos’ yr wythnos hon.

Mae’r triawd o Lanrug yn cynnig rhywbeth bach yn wahanol, fel y gwelwch chi o’u cyfweliad nhw yn rhifyn diweddaraf Y Selar.

Da ydy’r fideo yma i PartDepat hefyd …

Record: Interior Design – HMS Morris

Hir yw pob ymaros medden nhw, ac mae’n teimlo fel ein bod ni wedi aros oes am albwm cyntaf HMS Morris!

O’r diwedd, mae record hir y grŵp gwych, Interior Design, wedi cyrraedd y silffoedd…a safle Bandcamp y grŵp.

Mae’r albwm, sydd allan ar label Waco Gwenci, wedi derbyn adolygiadau da yn barod ar Soundblab, Complete Music Update a Buzz Magazine, ac rydan ni’n disgwyl gweld mwy o sylw tebyg yn dilyn.

Ac un peth arall…: Fideo ‘Cloddio Unterdach’ – R. Seiliog

Mae wedi bod yn wythnos brysur arall i R. Seiliog, sydd hefyd yn rhyddhau cynnyrch heddiw ar ffurf yr EP, Shedhead, sydd allan ar label Turnstile.

Ddoe, fy gyhoeddodd yr artist electroneg o Ddinbych gwpled o gigs yn Llundain a Brighton ar 18 a 19 Ionawr, ac mae hefyd wedi datgelu’r fideo hyfryd yma i’r trac ‘Cloddio Unterdach’ sydd ar yr EP newydd.