Mae un o grwpiau ifanc mwyaf cyffrous Cymru, Lewys, yn ôl gyda’u sengl newydd – ‘Dan y Tonnau’.
Gan fynd yn groes i’r drefn ddiweddar o ryddhau senglau digidol ar ddyddiau Gwener, fe ryddhawyd hon gan Recordiau Cosh ar ddydd Llun yr Eisteddfod Genedlaethol, sef 5 Awst.
Yn ôl y label, dyma sengl orau Lewys hyd yma, ac mae’n rhagori ar y gyfres o senglau maen nhw wedi’u rhyddhau dros y deunaw mis diwethaf – ‘Camu’n Ôl’ (Hydref 2018), ‘Gwres’ (Medi 2018) ac ‘Yn Fy Mhen’ (Chwefror 2018).
Diolch i’r senglau, fideos a pherfformiadau byw egnïol, mae Lewys wedi sefydlu eu hunain fel un o grwpiau newydd mwyaf poblogaidd Cymru gan gipio gwobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror eleni.
Cymerodd y trac dros ddeufis i’w recordio wrth i’r band weithio gyda’r cynhyrchydd Rich James Roberts ym Mhenrhyndeudraeth dros nifer o sesiynau mewn ymdrech i’w berffeithio.
Y canlyniad ydy sŵn aeddfed sy’n glod i’r cerddorion ifanc yn y band – yn wir, mae holl aelodau Lewys dal yn eu harddegau.
Y pedwar aelod ydy Lewys Meredydd, Gethin Meilir, Iestyn Huw ac Ioan Bryn ac mae’n amlwg bod y pedwar yn gwbl o ddifrif am eu cerddoriaeth gan eu bod i gyd yn dechrau cyrsiau cerddorol yn y Brifysgol eleni – Lewys a Gethin yn astudio cerddoriaeth, Iestyn yn astudio offer taro ac Ioan yn gwneud cwrs yn astudio’r gitâr’.
Yn ol pob tebyg mae’r sengl newydd yn damaid i aros pryd nes rhyddhau albwm cyntaf Lewys ddiwedd yr haf. Roedd cyfle cyntaf i glywed y sengl newydd ar flog Son am Sin ddydd Sul diwethaf, 4 Awst.