Mae’n bleser gan Y Selar gynnig y cyfle cyntaf i chi glywed sengl newydd sbon Derw, ‘Ble Cei Di Ddod i Lawr’.
Daeth prosiect newydd y cerddorion profiadol Dafydd Dabson ac Elin Fouladi i’r amlwg yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae’r trac newydd yn ddilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Dau Gam’.
Mae’r sengl newydd allan yn swyddogol ar 28 Awst, ond yn sbeshal i chi selogion lwcus Y Selar, dyma ‘Ble Cei Di Ddod i Lawr’: