Pleser mawr gan Y Selar ydy rhoi’r cyfle cyntaf i chi glywed sengl newydd sbon Teleri.
‘Haf’ ydy enw sengl ddiweddaraf y gantores electronig newydd, ac mae allan yn swyddogol ar ei safle Bandcamp ddydd Llun, 3 Awst.
Dyma’r bedwaredd mewn cyfres o senglau gan Teleri eleni gan ddilyn ‘Hawdd’ ym mis Gorffennaf, ‘Adenydd’ ddiwedd mis Ebrill ac ‘Euraidd’ ar ddechrau’r flwyddyn.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn dynodi shifft yng nghyfeiriad cerddoriaeth Teleri, datblygiad sy’n ei gweld yn symud i gyfeiriad newydd o ddatblygu caneuon dawns finimalaidd.
Mae’r trac newydd yn cyd-fynd â’r sengl ddiwethaf, ‘Hawdd’. Dywed y gantores fod ‘Haf’ yn dilyn ‘Hawdd’ fel teyrnged i dymor cynhesaf y flwyddyn.
Dywed Teleri fod y trac newydd hefyd yn adlewyrchu haf unigryw 2020 ,ac yn mynegi gobaith at yr haf nesaf.
Felly, mwynhewch ‘Haf’: