Cyhoeddi rhifyn Mawrth 2020 o’r Selar

Mae’r rhifyn newydd o gylchgrawn Y Selar allan rŵan!

Roedd cyfle cyntaf i gael gafael ar gopi o’r rhifyn newydd ar ddiwedd penwythnos Gwobrau’r Selar nos Sadwrn, ond mae bellach wedi’i ddosbarthu i leoliadau amrywiol ledled Cymru,

Mae’r rhifyn newydd yn cynnwys manylion holl enillwyr Gwobrau’r Selar, ynghyd â rhestr ‘10 Uchaf Albyms’ 2019 yn ôl pleidleiswyr y Gwobrau.

Y gantores Georgia Ruth sydd ar glawr y rhifyn newydd wrth iddi baratoi i ryddhau ei halbwm newydd, Mai, ym mis Mawrth, ac mae cyfweliad gyda Georgia, gan Lois Gwenllian, rhwng y cloriau,

Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys cyfweliad gydag enillwyr teitl ‘Record Hir Orau’ 2019, Fleur de Lys, Sgwrs Sydyn gydag Yr Eira am eu halbwm newydd sydd allan yn fuan, a hefyd eitem newydd gydag Ani Glass i drafod eu halbwm newydd hithau, Mirores.

Mae eitemau eraill y cylchgrawn yn cynnwys colofn wadd gan Nesdi Jones, cyflwyniad i dri o artistiaid newydd y sin a’r tudalennau adolygiadau arferol.

Yn ogystal â’r fersiwn print, gallwch bori trwy fersiwn fersiwn digidol o’r cylchgrawn isod.