Diwedd Gwobrau’r Selar

Cyhoeddwyd ar raglen Lŵp, S4C nos Wener na fydd digwyddiad Gwobrau’r Selar yn digwydd yn y dyfodol.

Darlledwyd rhaglen uchafbwyntiau Lŵp o’r gwobrau eleni nos Wener (21 Chwefror) gan gynnwys perfformiadau byw o’r llwyfan a nifer o gyfweliadau gydag artistiaid a chyfranwyr cylchgrawn Y Selar. Mae modd gwylio’r rhaglen ar S4C Clic nawr.

Ar ddiwedd y rhaglen cyhoeddwyd mai dyma’r tro olaf y byddai digwyddiad gwobrau’n cael ei gynnal gan deimlo fod y fformat wedi rhedeg ei gwrs.

Cynhaliwyd Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth rhwng 13-15 Chwefror gyda noson i ddathlu gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gruff Rhys ar y nos Iau, a dwy noson i gyflwyno’r prif wobrau yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar y nos Wener a Sadwrn.

Ymysg yr artistiaid fu’n perfformio roedd Gwilym, Fleur de Lys, Elis Derby, Eadyth, Papur Wal, 3 Hwr Doeth a Los Blancos.

Dyma oedd yr wythfed tro i’r Selar gynnal digwyddiad byw i gyflwyno’r gwobrau, a dathlu llwyddiant cerddorol y flwyddyn a fu. Pleidlais gyhoeddus sy’n dewis rhestrau byr ac enillwyr Gwobrau’r Selar bob blwyddyn, gyda lein-yp y digwyddiadau’n adlewyrchu’r bleidlais honno bob tro.

Cynhaliwyd y noson gyntaf yn Neuadd Hendre ger Bangor yn 2013, cyn symud i Neuadd Fawr, Aberystwyth y flwyddyn ganlynol.

Ers 2015, Undeb Myfyrwyr Aberystwyth fu cartref y digwyddiad gan ddenu dros 1000 o bobl ifanc i’r gynulleidfa o bob cwr o Gymru.

Eisiau bwrw golwg nôl ar y penwythnos eleni? Beth ar bori trwy oriel luniau ffotoNant digwyddiad.

Llun: cynulleidfa Gwobrau’r Selar eleni’n mwynhau’r arlwy