Gruff Rhys i dderbyn gwobr Cyfraniad Arbennig

Mae Y Selar yn falch iawn i gyhoeddi mai Gruff Rhys fydd yn derbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar eleni.

Mae’r wobr yn cael ei chyflwyno pob blwyddyn i gerddor sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i gerddoriaeth Gymraeg dros gyfnod hir o amser, a sy’n parhau i wneud hynny.

Yr enillwyr blaenorol ydy Pat a Dave Datblygu, Geraint Jarman, Heather Jones ac ar y cyd i Mark Roberts a Paul Jones (Y Cyrff/Catatonia/Y Ffyrc) llynedd.

Grwpiau cynnar

Ag yntau wedi bod yn aelod pwysig o rai o fandiau amlycaf Cymru ers y 1980au, ac yn dal i arloesi gyda’i gerddoriaeth hyd heddiw, mae Gruff Rhys yn sicr yn ffitio i’r categori hwnnw.

Dechreuodd Gruff ei yrfa gerddorol fel drymiwr ar gyfer y grŵp Machlud, gan ddrymio’n hwyrach hefyd i’r grŵp Emily.

Daeth i’r amlwg o ddifrif ar ôl ffurfio’r band Ffa Coffi Pawb ym 1986, ac fel gitarydd a phrif ganwr fe’i harweiniodd i uchelfannau’r sin gerddoriaeth Gymraeg erbyn dechrau’r 1990au.

Rhyddhaodd Ffa Coffi Pawb dri albwm, sef Clymhalio, Dalec Peilon a Hei Vidal! gan ddatblygu sŵn unigryw a chyhoeddi caneuon cofiadwy sy’n dal i fod yn boblogaidd hyd heddiw.

SFA OK

A hwythau’n un o fandiau mwyaf Cymru erbyn hynny, chwalodd Ffa Coffi Pawb ym 1993, ac aeth Gruff ymlaen i ffurfio’r Super Furry Animals oedd hefyd yn cynnwys Dafydd Ieuan, drymiwr Ffa Coffi Pawb, ei frawd Cian Ciaran, Huw Bunford a Guto Pryce. Yr actor enwog, Rhys Ifans, oedd canwr gwreiddiol o grŵp cyn iddo adael, gyda Gruff yn camu eto i flaen y llwyfan fel prif ganwr.

Cafodd Super Furry Animals lwyddiant rhyfeddol gan ddod yn ganolog i’r symudiad a enwyd yn ‘Cool Cymru’ a welodd rai o fandiau Cymru’n ffrwydro mewn poblogrwydd a dod yn enwog ledled y byd.

Er iddynt symud at ryddhau cerddoriaeth Saesneg yn bennaf, bu iddynt barhau’n driw i’r Gymraeg trwy gynnwys caneuon Cymraeg ar albyms, rhoi testun Cymraeg ar eu cloriau a siarad yr iaith mewn gigs ledled y byd.

Yn wir, un o albyms gorau ac enwocaf y grŵp ydy Mwng a ryddhawyd yn 2000 – dyma albwm cyfan gwbl Gymraeg a gyrhaeddodd rif 11 yn y siartiau albyms Prydeinig.

Cenhadu

Record uniaith Gymraeg oedd cynnyrch unigol cyntaf Gruff, sef yr albwm Yr Atal Genhedlaeth, a ryddhawyd yn Ionawr 2005.

Er hynny mae wedi rhyddhau pum albwm unigol arall, gyda’r diweddaraf, Pang!, unwaith eto’n record gyfan gwbl Gymraeg.

“Heb os, mae Gruff yn un o gerddorion Cymraeg pwysicaf ei genhedlaeth, ac yn wir unrhyw genhedlaeth” meddai Owain Schiavone o’r Selar.

“Mae o wedi llwyddo i oroesi’n gerddorol ers y 1980au, gan ymestyn ei gerddoriaeth ymhell tu hwnt i Gymru fach. Trwy hynny mae bob amser wedi bod yn driw i’r iaith ac wedi cenhadu dros y Gymraeg mewn ffordd gynnil ond effeithiol.”

“Dwi’n weddol sicr bod Gruff wedi dylanwadu ar lawer o’n cerddorion ifanc heddiw, a’i fod yn hynny wedi chwarae rôl bwysig yn natblygiad y sin Gymraeg gyffrous sy’n bodoli ar hyn o bryd.”

Bydd noson arbennig yn cael ei chynnal er mwyn dathlu cyfraniad Gruff Rhys yn Stiwdio Canolfan y Celfyddydau ar nos Iau 13 Chwefror. Bydd Huw Stephens yn llywio’r noson ac yn holi Gruff, a fydd hefyd yn chwarae detholiad o’i ganeuon. Tocynnau ar werth nawr.

 

Noson yng nghwmni Gruff Rhys (Chwefror 13) – £12

Ddim ar werth ar hyn o bryd

 

 

Llun stori: Betsan @Celf Calon