Mae sengl newydd Thallo, ‘Mêl’, allan ar label Recordiau Côsh ers dydd Gwener 5 Mawrth gyda fideo hefyd i gyd-fynd â’r trac.
Thallo ydy prosiect cerddorol Elin Edwards, sy’n dod yn wreiddiol o Benygroes, ond sydd bellach wedi sefydlu ei hun yn Llundain.
Daeth i’r amlwg yn Ebrill 2019 wrth ryddhau’r sengl ‘I Dy Boced’ a gafodd ymateb ardderchog.
Ers hynny mae wedi cyd-weithio gyda’r cynhyrchydd electronig amlwg Ifan Dafydd, i ail-gymysgu’r trac hwnnw, a hefyd rhyddhau’r sengl ‘Aderyn Llwyd’ fis Awst diwethaf.
Bellach mae Thallo wedi ymuno â stabal Recordiau Côsh, a ‘Mêl’ ydy’r gyntaf o gyfres o senglau sydd i ddod allan gan Thallo ar y label dros y misoedd nesaf. Mae Côsh wedi bod yn disgwyl yn amyneddgar am gyfle i ryddhau’r gyntaf o’r senglau ers dechrau’r pandemig.
Mae Thallo yn llwyddo i blethu elfennau o jazz cyfoes, gwerin ac indie modern i greu gwledd esmwyth ac ymlaciol i’r glust. Mae’r sengl wedi’i recordio gyda’r cynhyrchydd Cymraeg, Harri Chambers, yn Stiwdio Saccharin yn Llundain.
I gyd-fynd â’r sengl, mae fideo ar gyfer y trac wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.
Oherwydd y cyfyngiadau ar hyn o bryd, bu’n rhaid bod yn greadigol wrth greu’r fideo ac weithiodd Elin gyda’r ffotograffydd sy’n rhannu tŷ gyda hi, Jule Sontagg, a ddefnyddiodd sgrin werdd a thaflunydd ar gyfer y gwaith ffilmio. Golygwyd y fideo gan Abi Sinclair, sef Anxious Clud, a oedd hefyd yn gyfrifol am fideo trawiadol y sengl ‘I Dy Boced’.
Os ydach chi eisiau gwybod mwy am Thallo a’r sengl newydd yna mae’n werth i chi ddarllen darn arbennig Tegwen Bruce-Deans am y gantores a gyhoeddwyd ar wefan Y Selar wythnos diwethaf.
Bydd cyfle i weld Thallo yn perfformio’n fyw ar dudalen Facebook Tŷ Pawb nos Wener yma, 12 Mawrth.