Ddechrau’r mis, lansiodd gwasg Dalen gyfrol newydd am Meic Stevens , ac rydan ni yma yn Y Selar yn parhau â’n cyfres ‘cip rhwng y cloriau’ sy’n rhoi cyfle cyntaf i chi gael blas o’r llyfr.
Mae’r ‘Meic Stevens: Caniadau’ yn cynnwys cerddi a geiriau caneuon Meic ar hyd ei yrfa, ynghyd â phytiau o’i hanes ac ambell lun o’r archif.
Yn y darn diweddaraf i ni gyhoeddi, mae’r gyfrol ym mynd o dan groen ail albwm llawn Meic, Gwymon (1972).
Cân hynotaf Gwymon yw ‘Galarnad’, yn traethu ysgrythur ddwys yn wyneb y dirywiad diwylliannol cyfoes y tyfodd Meic yn ymwybodol ohono wedi iddo ddychwelyd i Gymru o Fanceinion.
Rhwng y gitâr a’r allweddell (“originally written for a religious programme on HTV … I can’t remember now who’s playing organ on it”), mae seiliau rhythmig y tannau’n gyrru adlais cyntefig byrdwn gwleidyddol – “a demo tape very roughly put together, but I thought so much of it … it was too rare a comment to omit from the album”. Yn hyn o beth, mae hon yn ail gân anuniongyrchol wleidyddol ar Gwymon i ddilyn ‘Brenin y Nos’, cân sydd yn ei thro yn “ymwneud â’r dylanwad Seisnig ar Gymru”.
Deallwyd mai cân wleidyddol oedd ‘Brenin y Nos’ wrth ei disgrifio felly mewn cyfweliad ym 1974, gyda’r ddrychiolaeth yn Llanwynno “a’i mynwent fawr a’i thorf aruthrol o feirwon” yn ymgnawdoliad o’r Seisnigeiddio yng Nghymru. Ym mêr y gân, mae her inni fod yn wych.
Gyriant caled Gwymon, yn y cyfamser, yw ‘Gwely Gwag’ a felan bywyd y bluesmen. Dyma’r gân felan gyntaf i Meic ei hysgrifennu yn Gymraeg, “cân blues ’wy’n ganu’n ’itha ysgafn ond ma’ mwy o ddyfnder ynddi nag ma’ neb yn feddwl. Ond fel’na ma’r blues … caneuon cwbwl syml ond ma’ nhw’n cuddio llawer iawn o deimlad.”
Byddai’n ddegawd arall cyn iddo fentro eto gyda’r felan yn Gymraeg, yn canu ‘Lawr ar y gwaelod’ (1983), ac o dan yr wyneb mae cymhlethdod i’w glywed mewn ffurf sydd weithiau’n amrwd, wastad yn ddidwyll, ac yn dinoethi’r canwr – “nid rhywun yn ei neud e fel jôc i ddangos bod hi’n bosib ei neud e’n Gymraeg”, ond rhywun yn datgan â bwriad gwleidyddol gyfoesedd a pherthnasedd a pharhad ei iaith.
Eilio hyn wnaeth Johan Kugelberg ym 1997, pan nododd fyrdwn gwleidyddol sy’n gwbl hysbys er hawdd ei anghofio, “singing in Welsh as a citizen of the United Kingdom is like singing in Basque in Spain or singing in Cherokee in the US … an explicit act of politics, personal as well as popular”.
Ac yna o’r felan i fil, a chân y creadur ‘Carangarŵ’ sy’n llai cynnyrch sŵ swrealaidd Meic (chwedl Jarman) nag effaith gormodedd noson labyddiedig yng nghwmni Gary Farr, “written in a London taxicab while stoned”, cyn gorffen gyda’r un eliffant y bu Sabu yn ei farchogaeth yn ‘Shw’ mae? Shw’ mae?’.
I gloi Gwymon, felly, dyma’r eliffant sy’n cofio popeth, un arall o ganeuon Caerforiog, yn distewi gyda llif persain Pete Swales o swyddfa’r Stones.
Rhyddhawyd Gwymon ym mis Medi 1972, cyfnod cynhyrchiol wrth i Meic gyfrannu’n wythnosol at raglen John Morgan. Ym 1973, cychwynnodd y gyfres Nails ar HTV yn adolygu’r celfyddydau, “universally acclaimed as the worst programme in the history of television … we were after something raw-edged and spikey”. Yn serennu ymhlith y cyfranwyr oedd y bardd John Tripp o’r Eglwys Newydd, “boisterous performance poet … and all round funny man who crafted some seriously subversive scripts”.
Os ydach chi isio dysgu mwy am y gyfrol, neu archebu copi mae gwefan arbennig gan Dalen.
Diolch i Dalen hefyd am eu cynnig arbennig i aelodau premiwm Clwb Selar sydd am brynu copi – os ydych am fanteisio ar y cynnig yma a llwyth o fanteision eraill, ymaelodwch â Chlwb Selar (aelodaeth Roadie, Drymiwr, Basydd, Gitarydd Blaen, Prif Ganwr, Rheolwr).