skylrk. yn rhyddhau ei ail sengl

Mae skylrk. wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener 29 Gorffennaf.

‘adfywio.’ ydy enw’r trac newydd a dyma ydy’r ail sengl i’w rhyddhau gan y prosiect hip-hop cyffrous o Ddyffryn Nantlle. 

skylrk. ydy prosiect cerddorol Hedydd Ioan sydd hefyd y gyfarwydd fel cyfarwyddwr ffilm addawol dros ben. 

Ffrwydrodd skylrk. i amlygrwydd union flwyddyn yn ôl wrth ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B fel rhan o’r Eisteddfod Amgen llynedd. 

Bu iddo ryddhau ei sengl gyntaf, ‘dall.’, yr un pryd ac mae ‘adfywio.’ yn ddilyniant i’r sengl honno.

 Atgyfodi ‘adfywio.’

Dros y flwyddyn ddiwethaf my skylrk. wedi mynd o nerth i nerth gan gael ei gynnwys fel un o artistiaid rhaglen Forté, yn ogystal â chreu trac ar gyfer y gyfres deledu ‘Bex’ ar y cyd â’r cynhyrchydd Endaf.  

Dros y flwyddyn ers ei sengl gyntaf, mae hefyd wedi bod yn recordio ac yn datblygu rhagor o gerddoriaeth. Er mai nawr mae’n rhyddhau ei sengl newydd, mae ‘adfywio.’ yn gân sydd wedi ei gorffen ganddo ers amser maith. 

“Odd adfywio. yn un o’r caneuon cyntaf nes i erioed recordio o dan yr enw skylrk.” eglura Hedydd.  

“I ddeud y gwir, fe anfonais fersiwn gwreiddiol o ‘adfywio.’ allan i gael ei mastro yr un amser a ‘dall.’ Dechrau’r flwyddyn nes i hyd yn oed ei anfon allan i gael ei ryddhau, ond wedyn ei dynnu i lawr.”

O’n i’n teimlo fel bod y gân ddim digon, ddim yn berffaith. Ond drwy sgyrsiau efo cwpwl o unigolion, ac edrych ar y gân eto, sylwais ei bod yn berffaith yn ei amherffeithrwydd. Mae’r gân ei hun am symud ymlaen, a pheidio gadael i’r gorffennol eich diffinio. Mae’n anthem o amherffeithrwydd.”

Label newydd a gigs Steddfod

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Hedydd ei fod yn ffurfio label newydd ar y cyd â’r artist ifanc arall o Ddyffryn Nantlle, Cai, dan yr enw INOIS a bydd y sengl newydd allan ar y label hwnnw. 

Roedd dau gyfle i weld skylrk. yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron wythnos diwethaf. Roedd yn chwarae yng Nghaffi Maes B ar ddydd Mercher yr Eisteddfod, ac yna’n agor Maes B nos Iau.