Cyfle cyntaf i weld…fideo acwstig ’dall.’ gan skylrk.

Er yn enw newydd, mae enw skylrk. wedi bod yn un amlwg iawn dros yr wythnosau diwethaf.

Prosiect cerddorol y cyfarwyddwr ffilm ifanc, Hedydd Ioan, ydy skylrk. ac fe ryddhaodd ei sengl gyntaf, ’dall.’ ar 6 Awst.

Yr un wythnos, roedd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B fel rhan o’r Eisteddfod Amgen, ac o dipyn i beth fe lwyddodd i gipio’r teitl eleni.

Ac os nad ydy hynny’n ddigon, mae hefyd wedi rhyddhau sengl arall ers hynny, y tro yma ar y cyd ag Endaf a Fairhurst fel rhan o brosiect Sbardun Talent Ifanc.

Ac mae’r momentwm yn parhau wrth i ni allu cynnig cyfle cyntaf i chi weld fideo acwstig ’dall.’ yma ar wefan Y Selar!

Bydd yn amlwg i bawb bod y fersiwn yma o’r trac yn rhoi gwedd hollol wahanol i ’dall.’ ac yn ôl Hedydd nod y fersiwn acwstig ydi  dangos ei fwriad a diddordeb mewn creu mathau gwahanol, a genres gwahanol o gerddoriaeth, ddim jyst rap.

Yn ôl y cerddor, mae’n gobeithio byd prosiectau skylrk. yn y dyfodol  yn gallu cyfuno lot o synau gwahanol.

Am y tro, ciciwch nôl a mwynhewch y fideo (rhybudd iaith gref gyda llaw!):