Bwncath yn ôl gyda chân o obaith

Mae’r band hynod boblogaidd, Bwncath, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 7 Gorffennaf. 

‘Aderyn Bach’ ydy enw’r trac newydd a dyma’r gân wreiddiol gyntaf i’r band ei chyhoeddi ar label Sain ers rhyddhau eu hail albwm, ‘Bwncath II’, yn ôl ar gychwyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, ac mae’r grŵp wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.  

O fewn pythefnos o ryddhau ‘Bwncath II’, cafwyd dros 100,000 o ffrydiau ar Spotify. Derbyniodd y band gydnabyddiaeth tu hwnt i Gymru wrth i’r albwm gyrraedd rhif 27 yn siartiau ‘Official Folk Albums Charts UK’ gan aros yn y 40 uchaf am bron i flwyddyn gyfan, ymysg enwau fel The Staves a Laura Marling. Bellach, mae catalog o gerddoriaeth Bwncath wedi derbyn cyfanswm o dros 4.3 miliwn o ffrydiau ar Spotify. 

Yn dilyn llwyddiant yr ail albwm, daeth y band i’r brig yng nghategorïau ‘Record Hir Orau’ a ‘Band Gorau’ Gwobrau’r Selar 2020, ac eleni maent wedi ennill y ‘Grŵp Gorau’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru.

‘Deialog fewnol’

Mae Bwncath wedi rhyddhau dwy sengl ers eu hail albwm sef fersiwn o gân Vanta, ‘Pen y Byd’ yn 2021 a ‘Gyrru ni Mlaen’ ar y cyd â Meinir Gwilym ym mis Mehefin eleni. 

Elidyr Glyn ydy prif leisydd Bwncath ac awdur y gân, ac ef sydd hefyd wedi dylunio’r gwaith celf ar gyfer y sengl hefyd.  

“Mae’r gân yn ddeialog fewnol gyda’r aderyn bach yn cynrychioli’r rhan ohonot sydd wedi ei gaethiwo gan amodau allanol yn ogystal â’r rhai mewnol yr wyt wedi eu gosod arnat ti dy hun” meddai Elidyr. 

“Mae’r gân yn un o obaith, sef bod modd torri’n rhydd o’r gell drwy fod yn barod i ddod i adnabod dy hun a bod yn driw i hynny – a thrwy barhau i ganu’r gân honno y ceir y rhyddid a’r harddwch a ddaw gyda hynny. Rydym yn mawr obeithio y bydd ein gwrandawyr yn mwynhau’r sengl newydd ac rydym yn edrych ymlaen at glywed yr ymateb.” 

Yn ddiweddar, roedd y band yn un o bump yng Nghymru i dderbyn grant PPL Momentum Sbardun i helpu gyda’u prosiect nesaf. Maent eisoes yng nghanol paratoadau i recordio eu trydydd albwm yn Stiwdio Sain, wedi’i gynhyrchu gan Robin Llwyd, gyda’r bwriad o’i ryddhau yn 2024.

Mae’r pedwar aelod sef Elidyr Glyn, Robin Llwyd, Alun Williams a Twm Ellis wedi mwynhau ailgydio yn y gigio ar ôl y pandemig gyda 2022 yn flwyddyn i’w chofio. Roedd Bwncath i’w clywed ym mhob cwr o’r wlad wrth iddynt berfformio mewn dros 75 o ddigwyddiadau. 

Fodd bynnag, mae’n bosib mai 2023 fydd y flwyddyn orau eto, wrth i Bwncath gloi rhai o’n prif ddigwyddiadau a’n gwyliau ni yng Nghymru. Mae’r band yn edrych ymlaen at berfformiadau arbennig iawn ac at ddatgelu ambell sypreis ar hyd y daith!