Candelas yn rhyddhau ail sengl o albwm newydd
Mae un o fandiau mwyaf Cymru, Candelas, yn ôl gyda’u sengl ddiweddaraf. ‘Cariad yn y Manylion’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label I KA CHING.
Mae un o fandiau mwyaf Cymru, Candelas, yn ôl gyda’u sengl ddiweddaraf. ‘Cariad yn y Manylion’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label I KA CHING.
Mae trefnwyr gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau yn galw am wirfoddolwyr i helpu gyda’r digwyddiad. Cynhelir y Sesiwn Fawr ar benwythnos 17-20 Gorffennaf eleni gyda llu o gerddoriaeth fyw mewn safleoedd amrywiol yn y dref.
Yn ffres o’u perfformiad cyntaf yng ngŵyl The Great Escape yn Brighton wythnos diwethaf, mae’r band nu-metal o Fangor, CELAVI, wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘EYELINER’, ers dydd Iau 22 Mai.
Mae’r bartneriaeth gerddorol unigryw rhwng Bendigaydfran a Popeth yn parhau wrth iddyn nhw ryddhau eu sengl ddiweddaraf ar y cyd. ‘Calon Neon’ ydy enw’r sengl newydd gan y ddeuawd sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Mae’r artist ifanc o Gaernarfon, Alis Glyn, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf mewn cyfres gyda’i label newydd. ‘Y Gath Ddu’ ydy enw ei thrydedd sengl ers ymuno â label Côsh, ac mae’n ddilyniant i ‘Y Tŷ’ ac ‘Y Stryd’ a ryddhawyd yn ddiweddar.
Mae Recordiau Libertino wedi rhyddhau eu halbwm aml-gyfrannog newydd ‘Swigod!: Libertino Cyfrol / Vol 1’.
Wedi hir ymaros, mae The Gentle Good wedi rhyddhau ei albwm newydd, ‘Elan’. Dyma record hir ddiweddaraf prosiect y canwr-gyfansoddwr profiadol Gareth Bonello, ac mae’n bortread seicadelig o Gwm Elan yng Nghanolbarth Powys.
Mae’r band o ardal Y Bala, Mynadd, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener 16 Mai. ‘Tra Môr yn Fur’ ydy enw’r cynnig diweddaraf ganddynt sydd allan ar Recordiau I KA CHING.
Mae’r tocynnau ar gyfer gŵyl a gynhelir mewn pentref glan môr yn Ne Ceredigion, Aberporth, ar werth nawr.