Brwydr y Bandiau: cyhoeddi pwy fydd yn y ffeinal

Cafodd enwau’r artistiaid fydd yn cystadlu yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau eu cyhoeddi ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru heno.

Dros yr wythnosau diwethaf mae 4 rownd rhagbrofol wedi eu cynnal yn Aberystwyth, Caernarfon a Chaerdydd a bellach rydym yn gwybod enwau’r chwech artist fydd yn brwydro am deitl enillydd Brwydr y Bandiau 2017.

Y chwech ydy Alffa, Eädyth, Gwilym, Jack Ellis, Mabli Tudur a Mosco.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar lwyfan perfformio yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mercher 9 Awst.

Chroma oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth yn Y Fenni llynedd, ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.