Gig: Mellt, Elis Derby, Dienw – Clwb Canol Dre, Caernarfon – 02/11/18
Mae’n benwythnos trist, gan ein bod yn ffarwelio â’r band o Fôn, Calfari, yr wythnos hon. Bydd y grŵp yn perfformio ar lwyfan am y tro olaf yn yr Iorwerth Arms ym Mryngwran heno, ac er mai dyma ydy diwedd y daith i Calfari, byddan nhw’n byw yn ein calonnau am flynyddoedd i ddod.
Lot o gigs nos Wener yr wythnos hon, gan gynnwys ein prif ddewis sef gig diweddaraf criw 4 a 6 yng Nghaernarfon, a’r cyntaf ers i’r hen do basio’r awenau i’r criw newydd o drefnwyr. Pwy well i ddechrau oes newydd nag enillwyr gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, Mellt, gyda chefnogaeth gan Elis Derby a’r grŵp newydd Dienw.
Cwpl o gigs bach neis yn y de hefyd, gyda The Gentle Good yn Neuadd y Dref Maesteg, ynghyd â Lleuwen a Fflur Dafydd yn adeilad newydd Yr Egin yng Nghaerfyrddin fel rhan o agoriad swyddogol y lle sy’n gartref newydd i S4C.
Dim syndod bod y Welsh Whisperer yn perfformio eto penwythnos yma, yn Stiwdio Acapela heno, ac mae cwpl o gigs gan Estrons – yn Glasgow heno, ac yna yn Newcastle Upon Tyne nos fory.
Ar ôl gorfod gohirio y gigs Wythnos Llyfrgelloedd ar y cyd rhwng Y Selar a Gorwelion diolch i Storm Callum fis diwethaf, rydan ni’n falch iawn eu bod nhw’n cael eu cynnal o’r diwedd penwythnos yma. Mae Campire Social ac Eadyth yn chwarae yn Llyfrgell Llandudno am 17:00 heddiw, ac yna Eadyth eto gydag I See Rivers yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ger Abertawe pnawn fory am 16:00. Tocynnau’n rhad ac am ddim – bargen y penwythnos, dim dowt.
Cân: ‘Fi yw Fi’ – MABLî x FRMAND
Dyma diwn sydd o gwmpas ers diwedd mis Awst, ond sydd allan yn swyddogol ar label newydd Recordiau Bica heddiw.
Anaml rydan ni’n gweld artist dawns electronig yn ail-gymysgu trac gan artist Cymraeg, ac yn hynny o beth mae fersiwn newydd FRMAND o drac Mabli Tudur, ‘Fi yw Fi’ yn chwa o awyr iach ac yn beth i’w groesawu.
Mae’r sengl yn cael ei rhyddhau ar y label newydd o Langrannog, sydd â bwriad o annog mwy o annog a hyrwyddo cerddoriaeth electroneg Cymraeg.
Gyda lwc, gallwn ni edrych mlaen at allu clybio yn iaith y nefoedd yn fuan iawn – yn sicr mae digon o fynd yn hon, tiiiiwn.
Record: Fforesteering – CaStLeS
Rydan ni wedi dysgu yr wythnos hon fod y band ardderchog, CaStLeS, wedi penderfynu newid eu henw i Worldcub.
Y newyddion da ydy nad yw’r newid enw’n golygu llawer o newid i’r gerddoriaeth, gan eu bod nhw eisoes yn cynhyrchu sŵn o’r safon uchaf, sy’n wahanol iawn i unrhyw beth arall yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
Yr esgus perffaith felly i fwrw golwg nôl ar unig albwm y band hyd yma hyd yn hyn, Fforesteering, a ryddhawyd bron union ddwy flynedd yn ôl ym mis Tachwedd 2016. Os ydach chi isho dysgu mwy am y grŵp, a’r albwm, yna mae’n werth bwrw golwg nôl dros ein cyfweliad â CaStLeS yn rhifyn Tachwedd 2016 o’r Selar.
Fel dywed Gethin Griffiths wrth adolygu’r albwm yn y rhifyn hwnnw o’r cylchgrawn, mae’r record yn “…eich gwahodd ar lwybr cerddorol y byddwch chi eisiau ei droedio fwy nag unwaith” cyn ychwanegu “…efallai bod angen ei droedio nifer o weithiau i werthfawrogi’r albwm hwn…”
Roedd CaStLeS ar lwyfan Gwobrau’r Selar yn Chwefror 2017, ar ôl blwyddyn brysur iawn yn 2016 ac roedden ni’n disgwyl iddyn nhw fynd o nerth i nerth yn enwedig ar ôl cael eu henwi’r ‘Fand yr Wythnos’ gan bapur newydd enwog The Guardian. Am ba bynnag reswm, maen nhw wedi distewi ers hynny, ond mae’n ymddangos bod y newid enw’n arwydd o egni newydd gyda’r band yn datgelu i’r Selar eu bod nhw wrthi’n recordio albwm newydd fydd allan yn 2019 rhyw ben. Newyddion da yn wir.
Wrth i ni ddisgwyl y casgliad newydd, mae’n gyfle i ni werthfawrogi Fforesteering o’r newydd. Dyma fideo gwych ‘Tynnu Tuag at y Diffeithwch’ a gyfarwyddwyd gan Eilir Pierce ar gyfer Ochr 1:
Artist: Calfari
Fel rydan ni eisoes wedi crybwyll, mae diwedd y daith wedi cyrraedd i Calfari wrth iddyn nhw gyhoeddi eu bod nhw’n chwalu, gyda gig olaf penwythnos yma ym Mryngwran.
Dyma chi fand sydd efallai, ynghyd â Fleur de Lys, wedi cario mantell sŵn ‘Môn roc’ dros y blynyddoedd diwethaf. Ok, fe wnawn ni dderbyn nad ydyn nhw wedi bod at ddant pawb, yn enwedig rhai o’r puryddion cerddorol, ond mae’n amhosib gwadu eu bod nhw wedi bod yn boblogaidd iawn ac wedi cael tipyn o lwyddiant.
Fe wnaethon nhw berfformio yng Ngwobrau’r Selar ym mis Chwefror 2016, a mynd adref gyda choron ‘Record Fer Orau’ am yr EP Nôl ac Ymlaen.
Dyma nhw’n perfformio pedwerydd trac yr EP hwnnw, ‘Rhydd’, yng Ngwobrau’r Selar y Flwyddyn honno.
Un peth arall…: Fideo Blind Wilkie McEnroe
Roedden ni wedi cyhoeddi Pump i’r Penwythnos wythnos diwethaf ychydig yn rhy fuan i gynnwys y fideo yma ar gyfer trac newydd Blind Wilkie McEnroe.
Rydan ni wedi rhoi tipyn o sylw i’r grŵp newydd yma ar wefan Y Selar dros y mis neu ddau ddiwethaf wrth i ni’n raddol ddatrys y dirgelwch ynglŷn â phwy yn union sy’n gyfrifol am y prosiectnewydd sydd wedi ymddangos o nunlle, gan chwarae gig cyntaf a rhyddhau sengl gyntaf ar yr un diwrnod ym mis Medi.
Fideo ‘Edrych i Mewn’ ydy’r tamaid diweddaraf i aros pryd nes ryddhau eu EP cyntaf ar label I KA Ching wythnos nesaf, ar 9 Tachwedd, ar roedd hi’n garedig iawn i Ochr 1 gyhoeddi’r fideo yma i gyd-fynd â’r trac ddydd Gwener diwethaf…