Mae stori lwyddiant Alffa yn parhau sengl, ac mae’r ddeuawd o Lanrug wedi creu hanes unwaith eto wythnos diwethath.
Y gamp ddiweddaraf i’r grŵp ydy gweld ‘Gwenwyn’ yn croesi’r ffigwr o 3 miliwn ffrwd ar Spotify.
Y sengl oedd y gân Gymraeg gyntaf i gael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify – darn bach o hanes arwyddocaol dros ben.
Cyrhaeddwyd y ffigwr hudol o filiwn ffrwd ar 2 Rhagfyr 2018, ac mae llwyddiant a phoblogrwydd y trac ar Spotify wedi parhau ers hynny wrth iddynt gyrraedd 2 filiwn ddiwedd mis Ionawr, ac yna groesi 3 miliwn wythnos diwethaf.
Roedd hanes Alffa a’r sengl ‘Gwenwyn’ yn stori newyddion Brydeinig ym mis Rhagfyr, gyda phapur newydd The Guardian ymysg y cyhoeddiadau amlwg i roi sylw i’w llwyddiant.
Ym mis Chwefror, rhyddhawyd sengl arall, ‘Pla’, gan y grŵp ac fe groesodd honno y ffigwr o 1,000,000 ffrwd ym mis Gorffennaf.
Yr wythnos hon mae’r grŵp wedi cyhoeddi dyddiad rhyddhau eu halbwm cyntaf hefyd, a gallwn edrych ymlaen at glywed y record hir ar 29 Tachwedd.