Roedd dathliad Gwobrau’r Selar bach yn wahanol i’r arfer eleni, ond cafwyd wythnos gofiadwy wrth i ni gyhoeddi’r enillwyr ar raglenni amrywiol Radio Cymru ddechrau mis Chwefror.
Doedd dim modd i ni gyflwyno’r gwobrau yn y cnawd chwaith wrth gwrs, felly dros yr wythnosau diwethaf mae corachod gweithgar Y Selar wedi bod yn brysur yn dosbarthu’r gweithiau celf sydd wedi eu creu gan yr artist Owain Sparnon eleni i’r holl enillwyr.
O’r diwedd, mae bron* pawb wedi derbyn eu gwobrau, ac wedi rhannu lluniau gyda’r Selar…a rŵan rydan ni’n rhannu rhain gyda chi!
(*rydan ni’n dal i drio tracio Carl Tango lawr i roi’r wobr Gwaith Celf Gorau iddo fo)
Dyma galeri lluniau enillwyr Gwobrau’r Selar:
Dyma restr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar 2020 eto i’ch hatgoffa:
Seren y Sin: Mared Williams
Gwaith Celf (Noddir gan Y Lolfa): Cofi 19 (gan Carl Tango)
Band neu Artist Newydd (Noddir gan Gorwelion): Malan
Artist Unigol Gorau: Mared
Cân Orau (Noddir gan PRS for Music): ‘Hel Sibrydion’ – Lewys
Gwobr 2020 (Noddir gan Heno): Eädyth
Record Fer: Dim ond Dieithryn – Lisa Pedrick
Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol y Drindod Dewi-Sant): Gwenno
Fideo Gorau (Noddir gan S4C): Dos yn Dy Flaen – Bwncath
Band Gorau: Bwncath
Record Hir Orau (noddir gan Rownd a Rownd): Bwncath II – Bwncath