Pump i’r Penwythnos – 28 Awst 2020

Bydd y rhai craff, a hyd yn oed y rhai llai craff siŵr o fod, yn sylwi ar newid bach i themâu ein pump peth ar gyfer y penwythnos.

Mae’r brwdfrydedd gwreiddiol dros gigs rhithiol ar ddechrau’r cyfnod clo wedi pallu rhywfaint yn ddiweddar, felly dyma benderfynu addasu mymryn ar y thema a’i alw’n ‘set’ yn hytrach na gig!

Newid cynnil, ond mae’n rhoi bach mwy o hyblygrwydd i ni gynnwys rhai o’r fideos cartref sy’n dal i fod yn boblogaidd ymysg artistiaid.

Digon o fwydro, ymlaen i’r 5…

Set rhithiol: Cwrw Drwg – Wigwam

Dydan ni ddim wedi gweld unrhyw beth gan Wigwam ers oes, felly roedd hi’n grêt i weld y fideo bach yma’n ymddangos ganddyn nhw wythnos yma.

Fersiwn cyfyr sydd yma o drac bywiog gwreiddiol Gwibdaith Hen Frân, sef ‘Cwrw Drwg’.

Gitarydd Wigwam, Rhys Morris sy’n gyfrifol am beiriannu’r sain ar hwn, a Dan Rees sydd wedi cyfarwyddo’r fideo. Joio bois.

 

Cân:  ‘Ffoi’ – Ghostlawns

Bydd y grŵp o Gaerdydd, Ghostlawns, yn rhyddhau eu hail sengl ar Bandcamp a llwyfannau ffrydio digidol eraill ar 4 Medi.

Ond, roedd cyfle arbennig i gynulleidfa Y Selar glywed ‘Ffoi’ gyntaf wythnos yma, cyn ei bod yn ymddangos yn unrhyw le arall ar-lein.

Tamaid i aros pryd nes rhyddhau eu halbwm cyntaf, Motorik, ydy’r sengl – bydd yr albwm allan yn swyddogol ar 30 Hydref eleni.

Mae ‘Ffoi’ yn cynnwys riffts gitâr cryf, synths a llais amgylchynol, ynghyd â drymiau byw gan gynnig sain sy’n cyferbynnu â sengl gyntaf y grŵp, ‘Breaking Out’.

Cafodd eu sengl gyntaf, ‘Breaking Out’, ynghyd â’r trac i roi blas o’r albwm, ‘Y Gorwel’, ei chwarae ar orsafoedd y BBC ledled Prydain, yn yr UDA, Canada, Ffrainc, Yr Almaen ac Yr Eidal.

Er bod peth dirgelwch am union aelodaeth y grŵp, rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n gerddorion profiadol ac wedi chwarae mewn grwpiau sy’n cynnwys Right Hand Left Hand, Gulp, The Gentle Good, Cotton Wolf, Manchuko a Damo Suzuki. Yn y gorffennol

 

Record: Y Drefn – Mared

Does dim llawer o albyms wedi ysgogi’r fath gyffro’n ddiweddar ag y mae record hir gyntaf Mared, Y Drefn.

Rhyddhawyd y casgliad newydd ddydd Gwener diwethaf, 21 Awst ac mae buzz aruthrol wedi bod am y peth.

Mae’n deg dweud bod y cyffro am yr albwm wedi cynyddu’n raddol gyda phob sengl sydd wedi ymddangos ganddi, gan gyrraedd uchafbwynt o’r diwedd wythnos diwethaf.

Cyhoeddwyd y ddiweddaraf o’r senglau hyn, ‘Pontydd’, ddiwedd mis Gorffennaf ond cyn hynny fe welwyd ‘Dal ar y Teimlad’ (Mehefin 2019), ‘Y Reddf’ (Gorffennaf 2019) ac ‘Over Again’ ym mis Mehefin eleni i roi blas o’r hyn i ddod.

Roedd modd gwylio gig lansio rhithiol arbennig yr albwm ar wefan AM ddydd Gwener diwethaf, gyda’r gantores yn perfformio’r casgliad yn llawn o Stiwdio Sain yn Llandwrog.

Label recordiau I KA CHING sydd wedi rhyddhau’r albwm, ac i gyd-fynd â’r record roedd nifer cyfyngedig o ‘fwndeli’ arbennig albwm Mared ar gael oedd yn cynnwys print o lun wedi’i greu gan Mared ei hun.

Dyma fideo ‘Y Reddf’ o 2019:

 

Artist: Carw

Gwych i weld adfywiad Carw (dim jôcs gwael am fam Bambi fan hyn) dros yr wythnosau diwethaf.

Rhyddhawyd y sengl wych, ‘Amrant’, ganddo ar 31 Gorffennaf er mwyn rhoi blas o’r albwm newydd, Maske, sydd allan ers dydd Gwener diwethaf.

Daw hyn ar ôl cwpl o flynyddoedd digon tawel gan brosiect electronig Owain Griffiths, felly mae’n grêt ei weld yn ôl gydag egni newydd.

Mae Maske yn codi o’r newid diweddar yn amgylchedd Owain, sydd wedi symud o Gymru i’r Almaen, ac mae’n deg dweud bod y record hir un dangos shifft amlwg yn sŵn y prosiect.

Mae’r albwm offerynnol yn arddangos curiadau cadarnach a synau synth tywyllach na’i waith blaenorol – sydd yn ôl ei label, Recordiau Blinc, yn cynnig naw os D​epeche Modea chyffyrddiadau o weithiau o’r 90au cynnar gan ​Orbitalac ​Aphex Twin.​

Mae M​aske​ wedi tyfu o’r teimladau sy’n dod gyda gadael gwlad gyfarwydd a dechrau bywyd newydd mewn gwlad ble nad oedd Owain yn adnabod unrhyw un.

‘Maske’ ydy’r gair Almaeneg am ‘mwgwd’, ac mae teitl yr albwm yn adlewyrchu teimlad o fod yn anweledig, anhysbys. Yn anfwriadol mae’n siŵr, gellir dweud ei fod yn enw addas iawn yng nghyd-destun y byd ar hyn o bryd, a’r drafodaeth ynglŷn â gwisgo mygydau er mwyn atal rhywfaint at y pandemig.

Gweledigaeth greadigol Carw ydy dewis a dethol dylanwad natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, gan gyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.

Mae Owain yn gerddor profiadol iawn bellach ac yn gyn-aelod o’r grŵp Violas. Ers dechrau perfformio dan yr enw Carw mae hefyd wedi perfformio fel rhan o Cotton Wolf, Eugene Capper & Rhodri Brooks, Winter Villains, a’r triawd synth electro, Hlemma.

I gyd-fynd â rhyddhau’r albwm, mae hefyd wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y trac ‘AM’

 

 

Un peth arall: Fideo ‘Golau’ gan .magi

Mae cyfres Lŵp ar S4C wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y trac ‘Golau’ gan magi. ar-lein wythnos diwethaf.

Rydan ni wedi bod yn dilyn gyrfa’r gantores addawol ers sawl blwyddyn yma’n Selar HQ, byth ers iddo ddechrau perfformio fel Magi Tudur, a hefyd pan oedd hi’n aelod o’r grŵp Y Galw. Mi wnaeth Magi, ac Y Galw ryddhau sengl yr un gyda ni fel rhan o Glwb Senglau’r Selar yn 2015.

Teg dweud bod Magi wedi datblygu tipyn dros y blynyddoedd, a gydag enw llwyfan newydd, .magi, a sŵn newydd i gyd-fynd, rydan ni’n disgwyl lot ganddi dros y blynyddoedd nesaf.

Rhyddhawyd ‘Golau’ yn wreiddiol ar label Recordiau Ski-Whiff ym mis Rhagfyr 2019 ac mae’r fideo wedi’i gyfarwyddo gan Andy Pritchard