Parry-Williams yn ddylanwad ar sengl ddiweddaraf Ffos Goch
Un o feirdd enwocaf Cymru ydy’r prif ddylanwad ar sengl ddiweddaraf Ffos Goch, sydd allan nawr. ‘Blino’ ydy enw’r trac newydd gan Ffos Goch ac mae’n ddarn sydd â naws dywyll, atmosfferaidd iddo yn ôl y cerddor.