Gorwelion newydd

Mae cynllun Gorwelion wrthi’n chwilio am artistiaid newydd i fod yn rhan o’r cynllun yn 2016-17. Dyma’r drydedd flwyddyn i’r cynllun, sy’n bartneriaeth rhwng y BBC a Chyngor Celfyddydau Cymru, fod yn rhedeg ac mae’n cynnig cyfleoedd datblygu ardderchog i 12 o artistiaid Cymreig.