Gig: Mr, Kim Hon, Tiger Bay – Galeri, Caernarfon – 30/04/22
Mae’n benwythnos prysur i Mr, gyda dau gig. Bydd y cyntaf yn Nhŷ Tawe, Abertawe heno gyda chefnogaeth gan SYBS.
Yna, nos fory, bydd Mark Roberts a’i fand yn teithio i’r gogledd i berfformio yn y Galeri, Caernarfon, gyda chefnogaeth gan yr ardderchog Kim Hon a Tiger Bay.
Un gig bach da iawn arall i sôn amdano, unwaith eto yn Nhŷ Tawe nos Sadwrn gydag Ani Glass, Eädyth a Bitw – cracar o leinyp.
Un digwyddiad mawr i grybwyll penwythnos yma sef Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bach ddydd Sul. Grêt i weld y gig mawreddog yma nôl gyda lein-yp gwych sy’n cynnwys Yr Eira, Chroma, Tara Bandito, Lloyd + Dom James, Mantis a Malan.
Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gigs sydd ar y gweill i’w hychwanegu at galendr gigs Y Selar.
Gallwch hefyd ychwanegu unrhyw gigs o’r calendr i galendr eich ffôn fel na fyddwch chi byth yn colli gig eto!
Cân: ‘Ffŵl Ohona i’ – Leri Ann
Ein dewis o gân yr wythnos hon ydy sengl ddiweddaraf Leri Ann, ‘Ffŵl Ohona i’.
Mae’r sengl allan ers ddydd Gwener diwethaf ac yn ddilyniant i EP cyntaf Leri a ryddhawyd llynedd.
Mae Leri, sy’n dod o Lan Ffestiniog, yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ar ôl iddi chwarae rhan un o gymeriadau mwyaf lliwgar Rownd a Rownd – Erin.
Er hynny, yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn datblygu ei thalentau unigryw fel cantores gyda’r cynhyrchydd Mei Gwynedd, ac mae’r sengl newydd hefyd allan ar ei label yntau, JigCal.
Mae dylanwadau’r gantores yn dod gan girl bands y 60au fel The Ronettes a’r Shirelles hyd at enwau fwy modern fel Duffy, Amy Winhehouse a Lady Gaga.
“Dwi wrth fy modd gyda’r sain, a chanu y math yma o ganeuon” meddai Leri.
“Fedrai ddim disgwyl perfformio y caneuon newydd yn fyw, ac yn edrych ymlaen yn fawr i allu cyfrannu fy rhan tuag at y sin gerddorol gwych sydd yma yng Nghymru ar hyn o bryd”.
Yn ôl JigCal, bydd rhagor o senglau ganddi’n cael eu rhyddhau dros y misoedd nesaf, gydag addewid o albwm llawn allan erbyn diwedd y flwyddyn.
Record: Jess – Jess
Yn gynharach yn yr wythnos fe gyhoeddwyd manylion gig i ddathlu 40 mlynedd o label Recordiau Fflach.
Bydd y gig yn cael ei gynnal yng Nghastell Aberteifi ar 22 Gorffennaf gydag enwau fel Crys, Einir Dafydd a Catsgam ar y lein-yp.
Er hynny, yr enw band sy’n neidio allan, ac a fydd yn creu’r mwyaf o gyffro mae’n siŵr ydy Jess.
Ffurfiwyd Jess fel band ysgol ym 1987 gyda’r canwr enigmatig, Brychan Llyr, yn hoelio’r sylw fel ffryntman. Yr aelodau eraill oedd Chris Lewis (gitâr), Emyr Davies (bas) ac Owen Thomas (dryms).
Cryno albwm hunan deitlog oedd eu cynnyrch cyntaf ym 1988 a hwnnw’n cael ei ryddhau ar ffurf casét ar label Recordiau Fflach.
Roedd y record gyntaf yma’r arwydd clir o sŵn roc gweddol unigryw’r band o fewn y sin Gymraeg. Prog rock fyddai rhai pobl yn galw eu harddull mae’n siŵr ond fe fyddai hynny’n ddisgrifiad braidd yn ddiog gan fod rhywbeth mwy soffistigedig am eu sŵn.
Chwe trac sydd ar y record gyntaf yma gan gynnwys y tiwns gwych ‘Brysiau i’r Haf’, ‘Bore Trannoeth’ a ‘Gwylio’. Er hynny, mae’n siŵr mai’r trac agoriadol ydy’r amlycaf, ac y gorau o’r casgliad byr – ‘Pan Mae’r Glaw yn Dod i Lawr’:
Artist: Dienw
Grêt i weld y ddeuawd ifanc o Arfon, Dienw, yn ôl gyda sengl newydd.
‘Targed’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd o Arfon, a dyma’r sengl ddiweddaraf i’w rhyddhau fel rhan o’r gyfres i nodi pen-blwydd label RecordiauI KA CHING yn 10 oed.
‘Targed’ ydy cynnyrch cyntaf Dienw ers dwy flynedd – bryd hynny roedd pethau’n edrych yn addawol iawn iddynt a hwythau wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ar I KA CHING, sef ‘Ffilm’, yn ogystal â pherfformio yn y gig mawr olaf cyn y cyfnod clo, sef Gwobrau’r Selar.
Recordiwyd y trac newydd yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth gyda Rich Roberts yn haf 2021, ac mae’r sengl yn diwn seicadelig sy’n crisialu egni byw’r grŵp.
Dienw yw Twm Herd (prif lais a gitâr) ac Osian Land (drymiau), ac mae’r ddeuawd yn dod o Ddyffryn Peris.
Y newyddion pellach ydy bod y ddau’n brysur yn gweithio ar eu halbwm cyntaf, ac mae ‘Targed’ yn damaid i aros pryd perffaith sy’n arddangos sain newydd ac aeddfetach y grŵp.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Targed’ sydd wedi’i greu a’i gyhoeddi gan griw Lŵp, S4C:
Un Peth Arall: Y Selar yn croesi 5,000 o ddilynwyr
Maddeuwch i ni am roi bach o sylw i’n hunain wythnos yma, ond mae’r Selar wedi cyrraedd carreg filltir weddol arwyddocaol o safbwynt ein presenoldeb ar-lein.
Yn ystod yr wythnos, bu i ni groesi 5,000 o ddilynwyr ar Twitter Y Selar felly roedden ni am fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth, ac am ddilyn ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Tîm bach (iawn!) sydd tu ôl i’r Selar ac mae’n cymryd dipyn o ymdrech i sicrhau ein bod yn rhoi llwyfan a sylw i gymaint â phosib o’r hyn sy’n digwydd o fewn y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Mae’r wefan a’r cylchgrawn yn ganolog i hynny wrth gwrs, ond mae’r cyfryngau cymdeithasol yn hollbwysig o ran ehangu cyrhaeddiad a gwneud yn siŵr bod y newyddion cerddoriaeth Cymraeg diweddaraf yn cyrraedd cymaint â phosib o bobl.
Rydan ni’n gwerthfawrogi pob RT, pob ‘like’ a phob ymateb ar Twitter, Facebook ac Instagram Y Selar. Diolch yn fawr iawn i bawb am bob cefnogaeth – ymlaen i’r 10,000!
Prif lun: Celf Calon (Y Selar/Clwb Ifor Bach)