Adolygiad: Drysa – Fleur de Lys

Cyfrannwr newydd i’r Selar, Gethin Griffiths, sy’n adolygu ail EP y band o Fôn… Roedd hi’n ymddangos ar un adeg fel bod grwpiau Môn yn prysur ffurfio genre pop roc eu hunain, ond erbyn hyn mae Fleur de Lys yn edrych dros y dŵr at grwpiau fel Catfish a Biffy Clyro ar gyfer eu hail EP, Drysa.

Adolygiad: Bethel – Gai Toms

Ciron Gruffydd sydd wedi bod yn gwrando ar albwm ddwbl newydd Gai Toms…. O riffs ska Anweledig i naws gwerinol Mim Twm Llai ac o albwm werdd gysyniadol at y gân “fformiwla” enillodd Cân i Gymru 2012 – mae Gai Toms yn gerddor sydd ddim ofn mentro.