Sengl Alffa i ddathlu 10 mlynedd
Wrth i’r band nodi deng mlynedd ers eu ffurfio, mae Alffa wedi rhyddhau eu sengl newydd sbon, ‘Disgrazia’.
Deuawd roc trwm o Ddyffryn Peris, ddaeth yn fuddugol yn Mrwydr y Bandiau 2017.
Wrth i’r band nodi deng mlynedd ers eu ffurfio, mae Alffa wedi rhyddhau eu sengl newydd sbon, ‘Disgrazia’.
Wedi cryn edrych ymlaen, mae’r ddeuawd roc o Lanrug, Alffa, wedi rhyddhau eu halbwm newydd. O’r Lludw / From Ashes ydy enw’r record hir newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh ac a fydd, yn ôl y label, yn tanio’r sin gerddoriaeth unwaith eto.
Mae albwm newydd y band roc Alffa ar gael i’w rag archebu nawr. Mae’r band eisoes wedi datgelu mai ‘O’r Lludw / From Ashes’ ydy enw’r albwm newydd sydd allan ar label Côsh.
Wrth i ddyddiad rhyddhau albwm nesaf Alffa agosáu, mae’r ddeuawd o ogledd Cymru yn rhannu’r blas olaf o’r hyn sydd i ddod gyda’u sengl ddiweddaraf, ‘Find Me’.
Wrth baratoi i ryddhau eu halbwm newydd, mae’r ddeuawd roc o Lanrug, Alffa, wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Dance Again’.
Mae fideo ar gyfer y trac ‘Pwythau’ gan Alffa wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C. Rhyddhaodd y ddeuawd roc o Lanrug ‘Pwythau’ fel sengl nôl ym Mehefin 2023.
Mae’r ddeuawd roc o ogledd Cymru, Alffa, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. A hwythau’n enwog am fod y band Cymraeg cyntaf i weld un o’u caneuon yn croesi miliwn ffrwd ar Spotify, mae eu caneuon bellach wedi croesi cyfanswm o 8 miliwm ffrwd ar y platfform hwnnw.
Mae Alffa wedi datgelu y byddan nhw’n teithio i Ganada i berffiormio ym mis Mehefin eleni. Cyhoeddodd y ddeuawd wythnos diwethaf y byddan nhw’n chwarae yng ngŵyl NXNE yn ninas Toronto a gynhelir rhwng 12 a 16 Mehefin.
Mae Alffa wedi rhyddhau eu sengl Saesneg newydd ers dydd Gwener diwethaf, 31 Mawrth. ‘Unkind Mind’ ydy enw sengl ddiweddaraf y ddeuawd roc o Lanrug ac mae’r gân yn cyfleu’r frwydr fewnol rhwng y corff a’r meddwl.