Breichiau Hir i ryddhau sengl ddwbl
Bydd y grŵp roc o Gaerdydd, Breichiau Hir, yn rhyddhau sengl ddwbl newydd cyn diwedd mis Medi. ‘Yn Dawel Bach / Saethu Tri’ ydy cynnyrch diweddaraf y grŵp a bydd y traciau’n glanio’n swyddogol ar y llwyfannau digidol arferol ar ddydd Gwener 20 Medi.