‘Ar ôl y Glaw’ – sengl newydd Carwyn Ellis
Mae Carwyn Ellis & Rio 18 wedi rhyddhau sengl newydd sbon ers 23 Tachwedd. ‘Ar ôl y Glaw’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i gyd-ysgrifennu gyda Mared Rhys o’r grŵp Plu, ac sydd wedi cyd-weithio gyda Carwyn ar yr albwm Bendith yn y gorffennol.