Morgan Elwy i lansio albwm yn Nhŷ Coch
Mae Morgan Elwy wedi datgelu trefniadau lansiad ei ail albwm nesaf. ‘Dub yn y Pub’ ydy enw albwm newydd y cerddor o Lansannan, ac yn briodol iawn fe fydd yn cynnal lansiad swyddogol y record yn un o dafarndai enwocaf Cymru.