Geiriau: Gruffudd ab Owain
Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi dyfod unwaith eto… na, nid yr amser i stwffio’r Twrci a phanig-brynu archebion (os ydych chi dal yn sdỳc, beth am aelodaeth i Glwb Y Selar?), ond yr amser i fwrw golwg ar yr artistiaid ifainc y dylem ni gadw llygad arnyn nhw yn y flwyddyn sydd i ddod.
Dw i wedi ymgymryd â’r gwaith o ddethol y rhestr yma ers rhai blynyddoedd bellach, ac felly cyn mynd ymlaen i edrych ar yr artistiaid y dylid eu gwylio yn 2026, dyma fwrw golwg yn ôl ar lwyddiannau’r artistiaid sydd wedi bod ar y rhestr yma yn y gorffennol.
2023
Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur o ryddhau a pherfformio i’r cohort o artistiaid ifainc oedd ar ddechrau ar dro 2023. Bu Dadleoli’n serennu ar y llwyfannau mwyaf drwy’r haf i gynulleidfaoedd helaeth, gyda dyfodiad eu sengl ‘Casanova’ i’r byd yn dilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf, Fy Myd Bach I, y llynedd. Rhyddhaodd Mynadd eu halbwm cyntaf, Dio mor hawdd â hynny?, ym mis Mehefin, ac mae Alis Glyn wedi rhyddhau cyfres o senglau ers ymuno â label Côsh. Mi wnaeth Maes Parcio ryddhau cerddoriaeth newydd am y tro cyntaf ers dwy flynedd gyda chyfyr o gân Topper, ‘Hapus’, ac mi fu’n flwyddyn brysur arall o berfformio i Tesni Hughes a’i band.
2024
Mae Buddug a TewTewTennau, dau o’r artistiaid i’w gwylio yn 2024, wedi cael blwyddyn ryfeddol. Rhyddhaodd Buddug ei halbwm cyntaf, Rhwng Gwyll a Gwawr, a’i enwebwyd ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, ac mae ei sengl gyntaf, ‘Dal Dig’, bellach yn anthem, ac wedi ymuno â’r ‘Clwb Can Mil’ o draciau sydd wedi’u ffrydio dros 100,000 o weithiau ar Spotify. Daeth llwyddiant chwim i EP newydd TewTewTennau, Bythwyrdd, ryddhawyd yn yr haf, ac maen nhw bellach yn un o fandiau prysuraf y sîn; bu iddyn nhw hefyd berfformio ym Maes B am y tro cyntaf eleni. Mae dau o fandiau prosiect ‘Yn Cyflwyno’ Menter Caerdydd, Anhunedd a Dagrau Tân, hefyd wedi parhau i fwrw’u prentisiaeth ar y sîn eleni: Anhunedd yn cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau, a Dagrau Tân yn gigio’n gyson yn y brifddinas a thu hwnt.
2025
Mae’n ymddangos fod yr artistiaid ifainc i’w gwylio yn y flwyddyn a fu yn parhau i ddod o hyd i’w traed ar y sîn. Rhyddhawyd sengl gyntaf Paralel, ‘Angerdd’, ar Label Amhenodol; Alys a’r Tri Gŵr Noeth wedi bod yn brysur yn perfformio ers rhyddhau eu sengl ‘Rhy Hir’ ddiwedd 2024, hefyd ar Amhenodol; ac ambell un arall o’r artistiaid wedi dechrau bwrw’u plwyf wrth gigio.
A gyda hynny, ymlaen â ni at yr hyn y mae pawb wedi bod yn aros amdano… yr artistiaid ifainc i’w gwylio yn 2026!
2026
Dewin
Mae brand wizard pop Dewin yn addo rhywbeth cwbl newydd i’r sîn Gymraeg ei hiaith. Daethant at ei gilydd yn haf 2024: “Roedd Nico [Dafydd, Fflach Cymunedol] yn chwilio am bobl ifainc lleol i greu cerddoriaeth gyda’r label ar ei newydd wedd, a pwy welodd Nico ar un prynhawn gwaith hirfelyn tesog yng ngwersyll yr Urdd Pentref Ifan yn chwarae’r clarinet ac acordion mewn twmpath ond Jencyn Corp a Lefi Dafydd, sef ni, Dewin!
“Roeddem ni wedi bod yn creu cerddoriaeth gyda (ac yn erbyn) ein gilydd ers blynyddoedd, mewn pob math o genre. Cyn i chi fedru dweud ‘chwip-chwap-chwyldroadol’, hudwyd Dewin ynghyd wrth i ni dderbyn ein cotiau glas amryliw, ein henw, a’n sŵn unigryw yn stiwdios Fflach.”
Er mai Jencyn a Lefi yw’r ddau aelod creiddiol, mae sawl un arall yn ymuno â nhw i berfformio, gan gynnwys Mefin Hughes, Dylan Sanders-Swales, Bryn Richards, ynghyd â brodyr a chwiorydd y ddau.
“Mae’r profiadau rydym ni wedi cael fel band eleni yn anhygoel. Mae’n amhosib credu taw llai na blwyddyn yn ôl roedd ein gig cyntaf erioed, ar y trydydd o Ionawr, yn y Seler yn Aberteifi. Ers hynny, ry’n ni wedi chwarae mewn 17 gig arall, gan ennill gwobr goffa Richard a Wyn yn Hermon, agor i fawrion fel Ynys a HMS Morris, rocio Tafwyl, chwarae mewn maes parcio yn Llydaw (am hwyl), a serenadio gwartheg Sir Benfro er mwyn codi arian i Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026.” Heb anghofio agor noson Gwobrau’r Selar ’nôl ym mis Mawrth!
“Efallai taw yr uchafbwynt o’r holl gigs buom ni’n eu gwneud eleni oedd y gig olaf wnaethom ni, yng Ngŵyl Lleisiau Eraill ar y cyntaf o Dachwedd. Roeddem ni’n chwarae yn y pafiliwn yn y Castell, ac roedd yr awyrgylch o fewn y pafiliwn yn ecstatig! Roedd y lle’n llawn dop, ry’n ni mor falch ein bod wedi medru chwarae yn Lleisiau eraill, a chael y fath ymateb wefreiddiol wrth y gynulleidfa.”
Rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Syched Cas’, a fideo i gyd-fynd ym mis Mawrth, ac mae addewid am albwm cyntaf o’r enw Dan y Dderwen ar Fflach yn fuan yn 2026. Er bod Lefi a Jencyn ill dau’n brysur yn astudio yn Lloegr, mae tipyn o gigs yn barod yn eu dyddiaduron, gan gynnwys Gŵyl Fel Na Mai yng Nghrymych a Focus Wales yn Wrecsam.
A phan ddaw’r haf… “mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i’n patshyn ni yn 2026, felly byddwch chi’n ein gweld yn hedfan o amgylch y maes yn gwneud gwahanol bethe, mae’n siŵr.
“A phwy a ŵyr beth arall fydd gan 2026 i’w gynnig? Does gyda ni ddim syniad, dydym ni fel dewiniaid byth wedi bod yn dda iawn wrth y dail tê. Beth am ddatgan bod y dyfodol yn wlad ddirgel a niwlog rydym ni’n eiddgar i frasgamu drwyddo rhyw ddydd? Ie, man y man.”
Yr Hunanol
Huw (gitâr a llais), Tomos (gitâr a llais), Eben (bas) a Gwion (dryms) sy’n ffurfio Yr Hunanol, band wedi’i leoli yng Nghaerdydd, a hwythau wedi dod at ei gilydd yn y brifysgol. Ond, fel maen nhw’n esbonio wrtha’i, mae gwreiddiau’r grŵp yn hŷn na hynny: “mae Huw, Eben a Gwion wedi bod yn ffrindie’ oes; ’mond ar ôl i ni gwrdd â Tomos yn y brifysgol ac ers i rywun ddisgrifio ein can ‘Pwythau’ fel ‘y cymysgedd perffaith o Bwncath a The Smiths’, y gwnaethon ni benderfynu dechrau band.”
Ac erbyn hyn, mae ‘Pwythau’ wedi cyrraedd y byd, wedi’i recordio yn Stiwdio Cwrw, Caerfyrddin gyda chymorth “dirnadaeth dreiddiol” Louise O’Hara ac Emyr Siôn, a’i ryddhau ar Fflach Cymunedol.
Maen nhw hefyd wedi bod yn brysur yn gigio, yn agor i artistiaid fel Griff Lynch, Pys Melyn, a Morgan Elwy, gyda’r pínacl hyd yma’n dod ychydig wythnosau’n ôl gyda’u gig headline cyntaf yn Porter’s, Caerdydd, wedi’i drefnu gan Beacons Cymru.
Beth sydd ar y gweill yn 2026, felly? “Hoffem ni allu dangos ein datblygiad sŵn gan recordio mwy o ganeuon yn 2026. Mae hefyd gennym ni angerdd i droi ein sioeau byw yn ddigwyddiad yn hytrach na pherfformiad.” Maen nhw hefyd yn gobeithio cyd-weithio gydag artistiaid eraill, a pharhau i arbrofi gyda gwahanol ddulliau i hyrwyddo eu hunain.
Betsan Lees
Daeth Betsan Lees i’m sylw i ar ôl iddi agor i Buddug ddechrau mis Rhagfyr yng Nghlwb Ifor Bach. Dyna oedd y tro cyntaf iddi hi a’i band berfformio yng Nghaerdydd, er ei bod hi wedi bod yn perfformio yn Llundain ers sbel, gan gynnwys gigiau headline yn y Ned a’r Troubadour. Mae hi ar hyn o bryd yn astudio Cerdd yn y ddinas fawr.
“Dwi ’di bod yn sgwennu a pherfformio fy ngherddoriaeth gwreiddiol am flynyddoedd ond ffurfiais fand i chwarae gyda tua blwyddyn yn ôl,” eglura. John Harry Green (gitâr), Archie BD (dryms), Adriel Alamag (bas), Tom Shooter (piano) sy’n ffurfio’r band, a bydd Ted Porter hefyd yn ymuno weithiau ar y trwmped.
Mae dwy o’i senglau, ‘Awst’ a ‘Keeping Score’, eisoes wedi eu rhyddhau er mwyn cael blas ar ei cherddoriaeth. “Recordiais sesiwn byw ‘Awst’ ym mis Tachwedd gyda Betsan Anwyl, sydd allan ar YouTube,” eglura. “Roedd hwn yn cyd-fynd efo rhyddhad y sengl fel rhan o gronfa PYST x S4C.”
Ac mae addewid am ragor yn 2026. “Dwi’n bwriadu recordio EP yn y flwyddyn newydd efo 4 cân arni. Mae hefyd gigs gyda fi yn dod lan yng Nghaerdydd ac yn Llundain, yn cynnwys yn Tiny Rebel yng nghanol mis Chwefror.”
mac.
Mae mac. wedi cael blwyddyn brysur iawn, a hynny rywsut neu’i gilydd heb ennyn llawer o sylw. Maen nhw newydd ryddhau eu EP cyntaf ‘Wrth y Ffin’ ar label JigCal ddiwedd mis Tachwedd, a hynny’n dilyn y sengl ‘Cam Un’ bythefnos ynghynt.
Pan ryddhawyd y sengl, dywedodd Osian, gitarydd y band: “Efo pob cân, ’da ni’n chwilio i ysgrifennu rhywbeth cofiadwy efo ffocws ar y geiriau, ond yn enwedig rhywbeth sy’n cyfieithu’n dda’n fyw.” Disgrifir eu cerddoriaeth yn gyfuniad o punk a ‘garage rock’.
Ifan, Aidan, Harri a Billy sy’n ymuno ag o i ffurfio’r band – ffrindiau ysgol yn y brifddinas sydd wedi bod yn chwarae efo’i gilydd ers mis Hydref 2024.
“Fel band, rydym yn trio gigio cymaint â phosib ac roedd cefnogi Bwncath, band ni’n mwynhau, yn uchafbwynt i ni,” maen nhw’n esbonio. Ers hynny, mi fuon nhw’n lansio’u EP yn Fuel Rock Band.
Be sydd ar y gweill yn 2026? “Cynllun y band yw parhau i adeiladu ar y platfform rydym wedi adeiladu gyda llwyddiant ein EP. Rydym yn frwd iawn i barhau i gigio yn flwyddyn newydd ac yn gobeithio lledaenu ein cerddoriaeth i gynulleidfa pellach fel rhan o’r broses.”
Connemara
Mae’n bosib y byddwch chi wedi gweld rhai o’r criw yma’n perfformio dan yr enw Nod1 yn Eifionydd a thu hwnt dros yr haf, a hynny cyn iddyn nhw ymsefydlu fel Connemara ’nôl ym mis Hydref.
Deio Rhys sydd ar y gitâr ac yn brif leisydd, Owain Pritchard ar y bas a lleisiau cefndirol, Gwydion Frost ar gitâr, a Joseff Alun ar y dryms.
“Hyd yn hyn, rydym wedi cael llawer o brofiadau gwahanol, o chwarae ein gig gyntaf yn Ngholeg Meirion Dwyfor [Pwllheli], i rannu’r llwyfan gyda Bwncath, Candelas a Bryn Fôn.”
Dyddiau cynnar yn dal i fod, ond beth maen nhw’n ei obeithio amdano pan ddelo 2026? “Dan ni yn gobeithio cael fwy o gigs i rhannu ein gerddoriaeth a chael y profiad o chwarae’n fyw. Hefyd cystadlu yn brwydyr y bandiau 2026, a gobeithio rhyddhau caneuon.”
Lafant
Efallai y byddwch chi’n cofio sôn am Gelert wrth drafod yr artistiaid ifainc i’w gwylio rai blynyddoedd yn ôl: erbyn hyn, mae ambell aelod o’r band hwnnw’n gweithio ar brosiect newydd dan yr enw Lafant.
Mi wnaethon nhw ryddhau eu EP cyntaf, ‘Y Fodrwy’, ar Fflach Cymunedol ’nôl ym mis Mai. “Mae tyfu i fyny ar ymyl daearyddol a diwylliannol pethau wedi rhoi teimlad tra gwahanol i sain Lafant,” esbonir. Mae’r triawd o ogledd Sir Benfro yn cymryd ysbrydoliaeth o fandiau British Invasion y 60au a Surf Rock Americanaidd, ond hefyd o swagger Britpop ac ing grunge.
Aethon nhw ymlaen wedyn i ryddhau sengl ddwbl bellach ym mis Gorffennaf, ac fel y record flaenorol, fe’i recordiwyd mewn capel wedi’i ail-bwrpasu’n stiwdio yn Borth, Ceredigion, gyda’r cynhyrchydd o Americanwr, Mike West.
Mefin Hughes, Meiddyn Ladd a Sam Howell sy’n ffurfio Lafant, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos tipyn hyd a lled y wlad yn y flwyddyn sydd i ddod.
Blêr
Grŵp o ochrau Caernarfon ydy Blêr. Gwenlli, 17, sy’n canu ac yn chwarae gitâr rhythm, gydag Emil, 17, ar y dryms, Osian, 18, ar y gitâr flaen, a Siôn, 19, ar y bas.
Mi wnaeth y grŵp gyrraedd y rownd derfynol ym Mrwydr y Bandiau, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, ac ers hynny wedi parhau â’r prysurdeb: efallai fwyaf nodedig yn cefnogi Ciwb yn eu gig Nadolig yn Galeri, Caernarfon.
Cyn Brwydr y Bandiau, doedden nhw heb berfformio efo’i gilydd, er bod tipyn o brofiad perfformio ganddyn nhw yn gyffredinol mewn cyrsiau celfyddydau perfformio, bandiau pres, ac ambell i fand arall yn y gorffennol.
Maen nhw’n gweithio efo’i gilydd ers tua mis Ebrill – “ma’ jyst yn laff yndi,” meddai Siôn. “’Sa ’run cân yn swnio fel ei gilydd,” esbonia, er mai indie rock efo bach o jazz ydi’r peth agosaf sydd ganddyn nhw at genre. O ran dylanwadau, maen nhw’n enwi Pys Melyn, Mellt, Fontaines DC, The Kooks, a wedyn “…bach o Mozart?!”
Edrychwn ymlaen i weld beth fydd ar y gweill iddyn nhw yn y flwyddyn newydd.
Y Ddelwedd
Ac yn olaf, y band ddaeth i’r brig ym Mrwydr y Bandiau, sef Y Ddelwedd.
Mi wnaeth y criw – Hari (llais) o Bwllheli, Enlli (llais) o Gricieth, a Cian (dryms), Owen (gitâr flaen), Eban (gitâr rhythm), ac Isaac (bas) o Flaenau Ffestiniog – gwrdd yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Maen nhw wedi ffurfio ers mis Rhagfyr llynedd, ar ôl i’r aelodau fwrw’u plwyf mewn nosweithiau meic agored neu mewn bandiau eraill.
“Roedd gennym ni i gyd ddiddordeb mawr yng ngherddoriaeth (gwrando arno a’i greu) gan ei fod yn ddihangfa i ni,” meddai Hari. Mae’n dweud eu bod nhw’n arbrofi gyda gwahanol arddulliau cerddorol, ond yn bennaf roc flaengar, blŵs a ffync, gan nodi Red Hot Chilli Peppers, Pink Floyd, Anweledig a’r Beatles fel dylanwadau.
Wrth drafod â’r Selar cyn chwarae ar Lwyfan y Maes yn yr haf, meddai “mae wedi bod yn freuddwyd i bawb yn y grŵp i gael chwarae ar lwyfan o fath faint, ac mae cael gwireddu’r freuddwyd hwnnw yn rywbeth sy’n golygu’r byd i ni.”
Ac wrth symud tua 2026, mae’r egwyddor wrth wraidd y band yn siŵr o barhau. “Y nod sy’n cael blaenoriaeth gennym ni yw chwyldroi’r sin roc Gymraeg […] nod 1 wastad yw datblygu, newid yw’r unig gysonyn.”
*
A dyna ni’r wibdaith ar ben am flwyddyn arall!
Dymunwn y gorau i’r artistiaid ifainc yma wrth iddyn nhw ddechrau, neu barhau i fwrw’u plwyf yn y flwyddyn i ddod.
A’r cwbl sydd ar ôl i mi ei wneud ydy dymuno’r gorau i chithau dros y cyfnod nesaf yma – Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!




