Rhyddhau sengl Betsan ar UNTRO
Betsan ydy enw’r artist diweddaraf i ryddhau cerddoriaeth ar label UNTRO – y chweched artist i wneud hynny hyd yma.
Betsan ydy enw’r artist diweddaraf i ryddhau cerddoriaeth ar label UNTRO – y chweched artist i wneud hynny hyd yma.
Mae’r cerddor Rhys Dafis, sy’n disgrifio ei gerddoriaeth fel ‘tiwns trist’, wedi rhyddhau ei sengl newydd.
‘Chwyldro’ ydy enw’r sengl gyntaf i’w rhyddhau gan y band MWSOG, a hynny ar label BWGiBWGAN. MWSOG ydy prosiect diweddaraf yr artist gwerin cyfarwydd o Geredigion, Mari Mathias.
Mae Mei Gwynedd wedi gollwng y blas cyntaf o’i EP newydd, Amser. ‘Cofia Di, Ngeiriau i’ ydy enw’r sengl newydd ganddo, ac mae’n rhoi syniad o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar yr EP, ‘Amser’, sydd y dilyn ym mis Tachwedd.
A hithau’n Galan Gaeaf, roedd dydd Gwener diwethaf, 31 Hydref, yn ddyddiad priodol iawn ar gyfer rhyddhau sengl ddiweddaraf Morgan Elwy. ‘Diawl’ ydy’r enw addas ar y sengl newydd gan y cerddor o Ddyffryn Clwyd, ac mae allan ar label Recordiau Bryn Rock.
A hwythau wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Big Bird’ wythnos diwethaf, mae Mellt wedi cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r trac.
Mae Aleighcia Scott wedi rhyddhau ei sengl newydd ‘Fade Away’, sef trac ‘lovers rock’ modern sy’n cyfuno ei gwreiddiau reggae gydag egni ffres.
Mae’r band rockabilly hwyliog, Pwdin Reis, yn ôl gyda sengl newydd, ‘Winwns Coch’ . Pwdin Reis ydy’r casgliad o gerddorion profiadol Betsan Haf Evans (llais), Neil Rosser (gitâr), Rob Gillespie (Drymiau) a Norman Roberts (bas dwbl).
Mae Mei Emrys ac Elidyr Glyn wedi ffurfio partneriaeth ar gyfer rhyddhau sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 24 Hydref. ‘Hen’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd sydd wedi’i ryddhau ar label Recordiau Côsh.