Sengl newydd Osgled

‘Paid â deud’ ydy enw’r sengl newydd gan y grŵp amgen, Osgled. Prosiect cerddorol y gantores a’r gyfansoddwraig, Bethan Ruth, yw Osgled ac mae’n cyfuno haenau atmosfferig gyda’i llais swynol arbrofol.

Mellt yn rhyddhau ‘Big Bird’

Mae Mellt yn rhyddhau eu sengl newydd ar ddydd Mercher 22 Hydref. ‘Big Bird’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y triawd o Aberystwyth, ac mae’n damaid i aros pryd nes yr EP o’r un enw fydd yn cael ei ryddhau ar 12 Rhagfyr ar label Grwndi Records.

Malan rhyddhau ‘Lonely’

‘Lonely’ ydy enw’r sengl ddiwddaraf gan Malan sydd allan ar label Côsh ers dydd Gwener 17 Hydref. Cafodd fersiwn byw o’r gân yma ei rhyddhau ym mis Ionawr, fel rhan o albwm aml-gyfrannog ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’.