Gwen yn rhyddhau sengl unigol gyntaf
Mae basydd enigmatig y band Adwaith, Gwenllian Anthony wedi rhyddhau ei sengl unigol gyntaf dan yr enw Gwen.
Mae basydd enigmatig y band Adwaith, Gwenllian Anthony wedi rhyddhau ei sengl unigol gyntaf dan yr enw Gwen.
Fideo cerddoriaeth ar gyfer y gân ‘Mae ‘na Lais’ gan TewTewTennau ydy’r diweddaraf i’w gyhoeddi ar lwyfannau digidol S4C Miwsig.
‘Pobol yr Ymylon’ ydy enw’r chweched sengl i’w ryddhau gan y canwr Cleif Harpwood oddi ar ei albwm newydd, fydd allan cyn diwedd y flwyddyn.
Mae’r band gwerin Mwsog wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Gododdin’, ers dydd Mercher 8 Gorffennaf.
Mae cerddor sydd wedi bod yn aelod o fandiau yn y gorffennol wedi rhyddhau ei sengl unigol gyntaf ers dydd Iau diwethaf, 9 Gorffennaf.
Mae un o fandiau mwyaf sefydliedig Cymru, Cowbois Rhos Botwnnog, yn paratoi i ryddhau eu sengl ddwbl fel tamaid i aros pryd nes eu halbwm nesaf fydd allan ddiwedd mis Gorffennaf. ‘Gwylio defaid o ffenast gefn y tŷ / Lino‘ ydy enw’r sengl ddwbl newydd sydd wedi’i ryddhau.
Mae’r ddeuawd gwerin-pop o Ogledd Cymru, Igloo Hearts wedi rhyddhau sengl newydd sy’n fersiwn newydd o drac cyfarwydd iawn. ‘Dros Foroedd Gwyllt‘ gan Celt ydy’r trac dan sylw, a bydd y fersiwn newydd fan Igloo Hearts allan ar 15 Gorffennaf.
Mae’r cynhyrchydd ifanc o Sir Benfro, Menig, wedi rhyddhau ei EP newydd. Prosiect unigol y gŵr ifanc 18 oed, Sam Kelly o Dyddewi, ydy menig a ‘croud sounds’ ydy enw’r ail EP ganddo sydd allan ar label BWGiBWGAN.
Mae’r cynhyrchydd Shamoniks wedi rhyddhau ei EP newydd. ‘Arrael’ ydy enw’r record fer gan brosiect electronig arbrofol San Humphreys.