Gwobrau’r Selar i ddychwelyd i’w cartref ysbrydol
Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi manylion dyddiad a lleoliad digwyddiad byw Gwobrau’r Selar. Y newyddion mawr ydy bydd y noson yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef y lleoliad lle cynhaliwyd y digwyddiad yn hynod lwyddiannus rhwng 2015 a 2020.