Sain i ryddhau albwm aml-gyfrannog gyda Tŷ Gwerin
Mae label Sain a Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, wedi partneru i ryddhau albwm gwerin amlgyfrannog arbennig a fydd yn cael ei ryddhau’n ddigidol, ar CD ac ar feinyl.
Mae label Sain a Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, wedi partneru i ryddhau albwm gwerin amlgyfrannog arbennig a fydd yn cael ei ryddhau’n ddigidol, ar CD ac ar feinyl.
Mae’r cynhyrchydd electronig o Ogledd Cymru, Foel, wedi rhyddhau ei sengl gyntaf. ‘Ogof / Melltydd’ ydy enw’r sengl ddwbl newydd sydd allan yn ddigidol.
Mae Griff Lynch wedi datgelu ei fod yn paratoi i ryddhau ei albwm cyntaf a fydd allan ym mis Hydref eleni.
Mae prosiect cerddorol newydd, Ymylon, wedi rhyddhau sengl gyntaf. ‘Yr Hen Raff’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau Aran.
Mae’r band dwy-ieithog o Bowys, Moletrap, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. ‘Middle Of The Land’ ydy enw’r trac newydd ganddynt ac mae’n adlewyrchu ar y golled o dafodiaith a’r effaith mae hyn yn ei gael ar hunaniaeth, ei fregustod a phwysigrwydd dal gafael ar yr hyn sydd ar ôl ohono.
Bydd dwy noson o gigs amgen yn cael eu cynnal yn Wrecsam i gyd-fynd ag ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol a’r dref.
Mae Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi lansio prosiect newydd ‘Band Byw!’, sy’n gyfres o weithdai cerddoriaeth i bobl ifanc dros yr haf eleni.
Mae Ani Glass yn paratoi i ryddhau ei sengl newydd wrth iddi baratoi at gyhoeddi ei halbwm nesaf. ‘Phantasmagoria’ ydy enw’r trac newydd arallfydol gan yr artist bop-electronig.
Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Paralel, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf. ‘Angerdd’ ydy enw’r blas cyntaf a gawn o’r band ac mae allan ar y label recordio Label Amhenodol.