Cyhoeddi arlwy gerddorol Gŵyl Canol Dre
Mae Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin wedi cyhoeddi manylion yr artistiaid cerddorol fydd yn perfformio yno eleni.
Mae Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin wedi cyhoeddi manylion yr artistiaid cerddorol fydd yn perfformio yno eleni.
Mae’r band dirgel o Fôn, Genod A5, wedi rhyddhau au hail albwm o ganeuon ar y llwyfannau digidol. Ychydig a wyddwn am Genod A5 ond mae’n debyg bod y grŵp wedi bodoli ers peth amser dan label R-bennig yn Ynys Môn sy’n cael ei redeg gan y cynhyrchydd Jonny R.
Mae Carwyn Ellis & Rio 18 wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, sef y trac Cymraeg ‘Hei Ti’. Dyma gân agoriadol albwm newydd y prosiect, ‘Fontana Rosa’, sydd ar y ffordd ddiwedd mis Mai.
Fel rhan o baratoadau ar gyfer Gŵyl Tawe 2025, mae’r cerddor ifanc a chyffrous o Abertawe, Manon, wedi rhyddhau ei sengl gyntaf.
Mae un o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd, Buddug, yn ôl gyda’i sengl ddiweddaraf.
Ar ôl rhyddhau’r trac fel sengl yn ddiweddar, mae Harry Luke bellach wedi cyhoeddi fideo cerddoriaeth i gyd-fynd â’r gân boblogaidd, ‘Adlewyrchiad’.
Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Taran, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 2 Mai. ‘Gobaith’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau JigCal.
Carneddi ydy enw’r albwm unigol cyntaf gan y bardd a’r cerddor Iestyn Tyne sydd allan ar label Recordiau Cadnant.
Mae’r ddeuawd pop sinematig o Gaerdydd, Siula, wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Fallen Angel’ – cyfuniad cysurus o densiwn ac emosiwn.