9Bach yn ôl wedi cyfnod hesb
Mae’r band gwerin cyfoes poblogaidd, 9Bach, yn ôl gyda chynnyrch newydd cyntaf ers pum mlynedd. ‘Llaw 101 Mix’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ganddynt ar label Real World.
Mae’r band gwerin cyfoes poblogaidd, 9Bach, yn ôl gyda chynnyrch newydd cyntaf ers pum mlynedd. ‘Llaw 101 Mix’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ganddynt ar label Real World.
Mae’r band Cymraeg o Sheffield, Sister Wives, yn ôl gyda’u sengl ddiweddaraf. ‘YnCanu’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y pedwarawd ac mae allan ar label Recordiau Libertino.
Mae Tara Bandito wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf. ‘Marginally Mad’ ydy enw’r gân ddiweddaraf ganddi sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Bydd y cynhyrchydd enigmatig, Alaw, yn dychwelyd efo’i sengl newydd, ‘Respite’, sydd allan ers dydd Gwener 25 Ebrill ar label INOIS.
Mae Heddlu, sef prosiect unigol y cerddor Rhodri Daniel, gynt yn aelod o’r band Estrons, wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer ei sengl ddiweddaraf.
Mae Sywel Nyw, sef prosiect diweddaraf y cerddor Lewys Wyn, yn paratoi i ryddhau sengl ac albwm newydd dros yr wythnosau nesaf. ‘Teimla’r Gwres’ ydy enw’r sengl newydd ganddo sydd allan ddydd Gwener yma, 2 Mai, ac yn ei weld yn cyd-weithio gyda Mared.
Mae The Gentle Good wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 25 Ebrill, wrth i’r cerddor baratoi i ryddhau ei albwm newydd.
Mae’r band o Ddyffryn Conwy, Yr Anghysur, wedi rhyddhau eu halbwm newydd, sef Er Gwaetha’ Pob Dim. Yn ôl y band, mae’r albwm yn arddangos cyfuniad unigryw’r band o indie atmosfferig, alt-roc, a geiriau emosiynol, gan gyflwyno profiad gwrando pwerus i gefnogwyr hen a newydd.
Mae label Recordiau I KA CHING wedi croesawu artist newydd sbon ar y label, sef Martha Elen. Ac wrth wneud hynny, mae’r label hefyd wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, sef ‘Canu Cloch’, ers dydd Gwener diwethaf, 25 Ebrill.