Popeth am Popeth: Cyfweliad gydag Ynyr Roberts
Gyda’r sengl newydd ‘Diva’ wedi’i rhyddhau’n ddiweddar a’r addewid o albwm newydd ar y gorwel, dyma Angharad Rhiannon yn sgwrsio gydag Ynyr Roberts o Popeth ac yn rhoi’r byd yn ei le.
Mae Y Selar wedi agor yr enwebiadau cyhoeddus ar gyfer Gwobrau’r Selar 2025. Yn ôl yr arfer, mae cyfle i bawb sy’n dilyn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg gynnig enwau ar gyfer yr amrywiaeth o gategorïau.
Mae’r ddeuawd o Aberteifi, Chwaer, wedi rhyddhau eu sengl Nadolig. ‘Nadolig Gwyn’ ydy enw’r garol Nadoligaidd gan y ddwy chwaer sy’n rhyddhau eu cerddoriaeth trwy label Fflach Cymunedol.
Bydd label Fflach Cymunedol yn cynnal digwyddiad arbennig i ddathlu blwyddyn ers sefydlu’r label ym mis Ionawr.
Wrth nodi degawd ers rhyddhau eu EP cyntaf, mae Breichiau Hir wedi rhyddhau fersiynau byw o’r caneuon oedd ar y casgliad byr hwnnw.
Mae tocynnau bargen gynnar Maes B ar werth ers Dydd Gwener 12 Rhagfyr. Roedd Maes B Eisteddfod Wrecsam yn un cofiadwy a welodd ychwanegiadau newydd i’r arlwy, gan gynnwys Sebona Fi a Garej Parwys.
Mae Blwyddlyfr Y Selar 2025 wrthi’n cael ei argraffu, a bydd yn cyrraedd aelodau premiwm Clwb Selar erbyn y Nadolig.
Mae trefnwyr wedi cyhoeddi manylion gŵyl gerddoriaeth amgen newydd yng Ngogledd Cymru. ‘Yr Arfordir Amgen – Alternative Coast’ ydy enw’r ŵyl fydd yn cael ei chynnal ym Mae Colwyn ar 24 Ionawr.
Mae’r ddeuawd swynol, Eve Goodman a Sera, wedi cyhoeddi manylion eu taith ar y cyd yn y flwyddyn newydd.
Mae Mellt wedi cyhoeddi fideo ar gyfer eu sengl ddiweddaraf, ‘Weatherman’. Rhyddhawyd ‘Weatherman’ ar 26 Tachwedd, a dyma’r ail sengl o EP nesaf Mellt, gan ddilyn ‘Big Bird’ a ryddhawyd yn mis Hydref.