Gruff Rhys yn cyd-weithio gyda grŵp Twareg
Mae Gruff Rhys wedi cyfrannu at sengl newydd sydd wedi’i ryddhau gan y grŵp Twareg o’r enw Imarhan. ‘Adar Newlan’ ydy enw’r gân a ryddhawyd wythnos diwethaf ac mae’n cael ei chanu yn yr iaith Gymraeg a Tamasheq, sef fersiwn o’r iaith Twareg sy’n cael ei siarad gan lwythi Nomadig mewn rhannau o Ogledd Affrica.