Neidio i'r cynnwys

  • Newyddion
  • Pump i’r Penwythnos
  • Clwb Selar
  • Gwobrau’r Selar
  • Gigs
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram

Awdur: Y Selar

Y Selar Postiwyd ar 23 Tachwedd 2025

Rhyddhau sengl gyntaf Yr Hunanol

Mae band ifanc sydd â’u seiliau yn Aberystwyth wedi rhyddhau eu sengl gyntaf. ‘Pwythau’ ydy enw’r sengl newydd gan Yr Hunanol, sydd wedi’i ryddhau ar label Fflach Cymunedol.

Categorïau: NewyddionTagiau: Yr Hunanol
Y Selar Postiwyd ar 20 Tachwedd 2025

Manylion Llanast Llanrwst

Mae trefnwyr gŵyl flynyddol Llanast Llanrwst wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad eleni. Dydd Sadwrn 29 Tachwedd fydd prif ddiwrnod yr ŵyl sy’n gweld artistiaid yn perfformio mewn lleoliadau amrywiol yn nhref farchnad Llanrwst.

Categorïau: NewyddionTagiau: Llanast Llanrwst
Y Selar Postiwyd ar 20 Tachwedd 2025

Cleif Harpood a Lowri Evans yn cyd-weithio

Yn dilyn cyfnod o 45 o flynyddoedd ers recordio ‘Plant y Fflam’, albwm olaf Edward H Dafis, mae prif leisydd y band, Cleif Harpwood, wedi dychwelyd i’r stiwdio i recordio casgliad o 11 o ganeuon, i’w rhyddhau yn ystod 2025-2026.

Categorïau: NewyddionTagiau: Cleif Harpwood, Lowri Evans
Y Selar Postiwyd ar 19 Tachwedd 2025

Rhyddhau sengl gyntaf mac.

Mae band newydd o’r enw mac. wedi rhyddhau eu cynnyrch cyntaf ar label recordiau JigCal. ‘Cam Un’ ydy enw sengl gyntaf mac. sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 14 Tachwedd.

Categorïau: NewyddionTagiau: mac.
Y Selar Postiwyd ar 18 Tachwedd 2025

Rhyddhau albwm ‘byw’ Meinir Gwilym

Mae Meinir Gwilym wedi rhyddhau ei halbwm diweddaraf sy’n gasgliad o ganeuon hen a newydd wedi eu recordio mewn noson arbennig yn Galeri Caernarfon ym mis Medi eleni.

Categorïau: NewyddionTagiau: Meinir Gwilym
Y Selar Postiwyd ar 16 Tachwedd 2025

Rhyddhau albwm Rhi Jorj

Mae Rhi Jorj wedi rhyddhau ei halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 7 Tachwedd. ‘Ysgafn’ ydy enw’r record hir newydd ganddi sydd allan yn ddigidol yn unig am y tro, ond fydd ar gael ar ffurf CD hefyd ar 22 Tachwedd.

Categorïau: Erthyglau cylchlythyr, NewyddionTagiau: Rhi Jorj, Rhian Jorj
Y Selar Postiwyd ar 13 Tachwedd 2025

Tara Bandito yn rhyddhau ‘Ufudd’

A hithau ar fin rhoi genedigaeth i’w plentyn cyntaf, mae Tara Bandito wedi rhyddhau’r sengl newydd, ‘Ufudd’.

Categorïau: NewyddionTagiau: Tara Bandito
Y Selar Postiwyd ar 12 Tachwedd 2025

Osgled yn rhyddhau EP ‘Tes yr Haul’

Mae EP cyntaf  yr artist electronig, Osgled, wedi’i ryddhau ar label BWGiBWGAN. Tes yr Haul ydy enw’r record fer newydd.

Categorïau: Erthyglau cylchlythyr, NewyddionTagiau: Osgled
Y Selar Postiwyd ar 11 Tachwedd 2025

Sengl newydd Geraint Rhys

Mae’r canwr-gyfansoddwr o Abertwae, Geraint Rhys, wedi rhyddhau ei sengl Saesneg newydd. ‘I Belong to You’ ydy enw’r cynnyrch cyntaf ers dwy flynedd gan Geraint Rhys ar ôl iddo gymryd cyfnod o saib.

Categorïau: NewyddionTagiau: Geraint Rhys

Llywio cofnodion

Cofnodion hŷn
Cofnodion mwy diweddar
  • Darllen y Cylchgrawn
  • Cefndir Y Selar
  • Cysylltu
  • Clwb Senglau’r Selar
  • Gigs
  • Cwcis a phreifatrwydd

Hawlfraint © 2026 Y Selar.

Noddir gan Lywodraeth Cymru
Scroll Up