‘Y Gath Ddu’ – sengl ddiweddaraf Alis Glyn
Mae’r artist ifanc o Gaernarfon, Alis Glyn, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf mewn cyfres gyda’i label newydd. ‘Y Gath Ddu’ ydy enw ei thrydedd sengl ers ymuno â label Côsh, ac mae’n ddilyniant i ‘Y Tŷ’ ac ‘Y Stryd’ a ryddhawyd yn ddiweddar.