Rhestr fer ‘Cyflwynydd Gorau’ 2013
Mae’r Selar yn falch iawn o gyhoeddi rhestr fer categori ‘Cyflwydd Gorau’ 2013. Mae Huw Stephens a Lisa Gwilym unwaith eto wedi cyrraedd y brig, ond yr enw newydd ar y rhestr eleni ydy Tudur Owen.
Mae’r Selar yn falch iawn o gyhoeddi rhestr fer categori ‘Cyflwydd Gorau’ 2013. Mae Huw Stephens a Lisa Gwilym unwaith eto wedi cyrraedd y brig, ond yr enw newydd ar y rhestr eleni ydy Tudur Owen.
Heno mae’r Selar wedi cyhoeddi mai Dyl Mei a Gethin Evans fydd yn cyflwyno noson Wobrau’r Selar unwaith eto eleni.
Os ydach chi wedi bod yn cuddio dan garreg, neu mewn ogof heno, yna mae’n bosib eich bod chi wedi colli cyhoeddiad lein-yp Noson Wobrau’r Selar.
Wel, mae’r aros ar ben ac mae pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar bellach ar agor! Fel y gwyddoch, mae panel o 10 wedi llunio rhestrau hir ar gyfer y bleidlais gyhoeddus eleni ac mae modd i chi ddewis un ym mhob categori ar dudalen Facebook Y Selar.
Bydd y rhan fwyaf ohonoch eisoes yn gwybod ein bod wedi lansio Gwobrau’r Selar eleni yn rhifyn newydd Y Selar gan gyhoeddi hefyd bydd y Noson Wobrau’n cael ei chynnal yn Neuadd Fawr Aberystwyth ar 15 Chwefror 2014.
Dau o hoelion wyth y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes dros y ddeng mlynedd diwethaf fydd yn cyflwyno Noson Wobrau’r Selar.
Cafodd rhestrau byr categoriau ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’ eu cyhoeddi’n egsgliwsig ar raglen Y Lle ar S4C heno.
Cyhoeddwyd rhestrau byr dau o gategoriau Gwobrau’r Selar ar raglen Y Lle ar S4C neithiwr. Cyhoeddwyd mai Huw Evans, Lisa Gwilym a Huw Stephens sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori ‘Cyflwynydd Gorau 2012’.
Heno, fe wnaethon ni gyhoeddi’r 4 artist olaf fydd yn perfformio yn Noson Wobrau’r Selar yn Neuadd Hendre ar 2 Mawrth.