EP annisgwyl Omaloma

Yn hollol ddi-rybudd, mae’r grŵp pop seicadelig o Ddyffryn Conwy, Omaloma, wedi rhyddhau EP newydd. Gollyngodd y record fer o’r enw Roedd ar safle Bandcamp  Omaloma fore dydd Gwener diwethaf gan greu dipyn o gyffro ymysg y ffans.

Sengl Omaloma allan ddiwedd mis Mai

Bydd y grŵp o Ddyffryn Conwy, Omaloma, yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar ddiwedd mis Mai. ‘Dywarchen’ ydy enw sengl newydd hafaidd y grŵp, ac fe’i chrëwyd yn ystod ymweliad â Llyn Dywarchen. 31 Mai ydy dyddiad rhyddhau swyddogol y sengl newydd, a label Recordiau Cae Gwyn fydd yn ei rhyddhau.