heddlu yn rhyddhau blas diweddaraf o albwm
Mae heddlu, sef prosiect diweddaraf y cerddor Rhodri Daniel o Lanbedr Pont Steffan, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
Mae heddlu, sef prosiect diweddaraf y cerddor Rhodri Daniel o Lanbedr Pont Steffan, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
Mae S4C wedi cyhoeddi manylion eu llwyfan cerddoriaeth newydd fydd yn dwyn yr enw ‘Miwsig’. Yn ôl y sianel deledu, bydd Miwsig yn gartref deinamig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes o Gymru, ac yn rhannu a dathlu talent gerddorol o bob cwr o’r wlad.
Ddeufis wedi iddynt ryddhau eu halbwm newydd, ‘Diddiwedd’, mae Diffiniad wedi rhyddhau rhagor o gynnyrch newydd ar ffurf EP sy’n gasgliad o 4 fersiwn o un o draciau’r record hir ‘Dawnsio Ben Fy Hun’ ydy enw’r record fer ddiweddaraf gan y band a ffurfiodd yn wreiddiol ar ddechrau’r 1990au.
A hwythau wedi rhyddhau eu EP cyntaf, Y Fodrwy, fis Mai, mae’r triawd o Sir Benfro, Lafant, yn ôl gyda sengl ddwbl newydd sbon. ‘Eira Gwyn’ a ‘Borthroc’ ydy enw’r ddau drac diweddaraf ganddynt sydd allan ar label Fflach Cymunedol.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi’r rhestr fer eleni ar gyfer eu gwobr flynyddol am ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’.
Flwyddyn ers i gitarydd a phrif ganwr y grŵp ddioddef strôc yn ystod set yn Sesiwn Fawr Dolgellau, mae Cowbois Rhos Botwnnog yn ôl yn perfformio ar lwyfan.
Mae Gruff Rhys wedi rhyddhau ei sengl newydd ynghyd â dyddiadau ychwanegol ar gyfer ei daith ym mis Media Hydref.
‘Gwerthfawr’ ydy enw’r sengl unigol gyntaf gan Rose Datta, sef enillydd cystadleuaeth deledu Y Llais yn gynharach eleni.
Mae’r band profiadol iawn, KEYS, wedi rhyddhau eu halbwm diweddaraf. ‘Acid Communism’ ydy enw’r record hir newydd ganddynt a dyma eu halbwm mwyaf beiddgar ac eang hyd yma yn ôl y band – dogfen gyfoethog o greadigrwydd ar y cyd, archwilio sain, a chwilfrydedd athronyddol.