Hattrick o Wobrau’r Selar i Buddug
Am yr ail flwyddyn yn olynol, Buddug oedd prif enillydd Gwobrau’r Selar a gynhaliwyd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 21 Chwefror.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, Buddug oedd prif enillydd Gwobrau’r Selar a gynhaliwyd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 21 Chwefror.
Roedd y cymeriad enwog Mistar Urdd yn dathlu 50 mlynedd wythnos diwethaf, ac fe ryddhawyd fersiwn newydd o’r gân ‘Hei Mistar Urdd!’, ynghyd ȃ murlun cyhoeddus i lansio dathliadau hanner canrif o’r eicon Cymreig.
Mae’r rhestr fer olaf ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni wedi’i chyhoeddi. Datgelwyd enwau’r dair gân sydd wedi cyrraedd brig y bleidlais yn y categori ‘Cân Orau’ ar raglen Ifan Davies ar BBC Radio Cymru heddiw.
Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi mai Mr Phormula, Ed Holden, ydy enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni.
Mae’r band MWSOG wedi ryddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Llef Hir’ ers 13 Chwefror. MWSOG ydy prosiect diweddaraf yr artist gwerin cyfarwydd o Geredigion, Mari Mathias, ac mae’r sengl newydd allan ar label BWGiBWGAN.
Mae Breichiau Hir wedi rhyddhau eu sengl newydd – ‘Pob Un Brwydr’, sydd allan ar label Halen Records.
Mae Y Selar wedi cyhoeddi rhagor o rhestrau byr Gwobrau’r Selar, mewn cydweithrediad â BBC Radio Cymru.
Mae gwefan AM wedi cyhoeddi pedair ffilm ddogfen fer newydd am ddiwylliant cerddorol cymunedol, wrth nodi Dydd Miwsig Cymru.
Mae Cleif Harpwood wedi rhyddhau ei drydedd sengl o blith casgliad newydd o ganeuon. Mae ‘Rhythm yn y Glaw’ yn gân arbennig i goffáu y diweddar Charli Britton, drymiwr Edward H Dafis a ffrind mynwesol i Cleif a gweddill y band chwedlonol.