Cyhoeddi manylion Caffi Maes B 2022

Mae trefnwyr Caffi Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion yr arlwy fydd ganddynt ar faes y Brifwyl yn Nhregaron eleni  Bydd y perfformiadau yn y tîpî yn dechrau ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod, 30 Gorffennaf, ac yn rhedeg drwy gydol yr wythnos nes dydd Sadwrn 6 Awst.

Sengl newydd Kathod

Mae’r prosiect cerddorol cydweithredol, Kathod, yn ôl gyda sengl newydd sydd allan heddiw. ‘Cofleidio’r Golau’ ydy enw’r trac newydd gan y prosiect a bydd yn cael ei ryddhau ar label Recordiau I KA CHING.