Neidio i'r cynnwys

  • Newyddion
  • Pump i’r Penwythnos
  • Clwb Selar
  • Gwobrau’r Selar
  • Gigs
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram

Categori: Newyddion

Y Selar Postiwyd ar 21 Hydref 2024

Stafell Sbâr KLUST allan canol Tachwedd

Ar ôl iddynt gyhoeddi’r cydweithrediad ym mis Awst, mae gwefan gerddoriaeth Klust a Recordiau Sain wedi cadarnhau bydd yr albwm aml-gyfrannog, ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’, yn cael ei ryddhau ar feinyl 12” ar 15 Tachwedd.

Categorïau: NewyddionTagiau: Klust
Y Selar Postiwyd ar 20 Hydref 2024

Ynys yn SUNS

Dros y penwythnos bu’r band Cymraeg, Ynys, yn perfformio gigs fel rhan o ŵyl SUNS Europe yn Udine, Yr Eidal.

Categorïau: NewyddionTagiau: Ynys
Y Selar Postiwyd ar 19 Hydref 2024

Erin Dafis yn rhyddhau ‘Yn Ôl at fy Nghoed’

Mae’r gantores Erin Dafis wedi rhyddhau ei sengl gyntaf. ‘Yn Ôl At fy Nghoed’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i ryddhau ar y llwyfannau digidol arferol trwy label Recordiau Sain.

Categorïau: NewyddionTagiau: Erin Dafis
Y Selar Postiwyd ar 17 Hydref 2024

Alys a’r Tri Gwr Noeth yn cyhoeddi sengl gyntaf

Mae’r band ifanc o Sir Gaerfyrddin, Alys a’r Tri Gwr Noeth, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ers dydd Gwener 4 Hydref.

Categorïau: NewyddionTagiau: Alys a’r Tri Gwr Noeth
Y Selar Postiwyd ar 16 Hydref 2024

Datgelu manylion gŵyl NAWR 2024

Mae’r hyrwyddwyr cerddoriaeth amgen sy’n gweithio’n bennaf yn ardal Abertawe, NAWR, wedi cyhoeddi manylion gŵyl undydd a gynhelir ganddynt fis Tachwedd.

Categorïau: NewyddionTagiau: Gŵyl Nawr, NAWR
Y Selar Postiwyd ar 13 Hydref 2024

Enillwyr gwobrau eraill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Yr arloeswyr hip-hop o Gymru, Eric Martin a DJ Jaffa, enillodd y wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig, yn seremoni y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

Categorïau: NewyddionTagiau: Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig
Y Selar Postiwyd ar 13 Hydref 2024

L E M F R E C K yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024

Y rapiwr L E M F R E C K oedd enillydd  y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni wrth i’w albwm ‘Blood, Sweat & Fears’ fachu’r wobr o £10,000 am yr albwm orau wedi ei greu yng Nghymru neu gan bobl o Gymru o gwmpas y byd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Categorïau: NewyddionTagiau: L E M F R E C K, Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig
Y Selar Postiwyd ar 11 Hydref 2024

Rhys Llwyd Jones yn rhyddhau ‘Cwpledi’

Mae Rhys Llwyd Jones wedi ryddhau’r sengl ddwyieithog cyntaf oddi-ar ei albwm nesaf. ‘Lost Love Blues / Cwpledi’ ydy enw’r fersiynau Saesneg a Chymraeg o’r trac sydd ar gael nawr ar ei safle Bancamp.

Categorïau: NewyddionTagiau: Rhys Llwyd Jones
Y Selar Postiwyd ar 11 Hydref 2024

Lleucu Non yn rhyddhau sengl gyntaf

Lleucu Non ydy enw’r artist diweddaraf i ryddhau cerddoriaeth am y tro cyntaf ar label UNTRO. Cyn hyn mae UNTRO wedi rhyddhau senglau cyntaf Cyn Cwsg, BERIAN a Ffion Campbell-Davies, sydd oll wedi creu cryn argraff.

Categorïau: NewyddionTagiau: Lleucu Non

Llywio cofnodion

Cofnodion hŷn
Cofnodion mwy diweddar
  • Darllen y Cylchgrawn
  • Cefndir Y Selar
  • Cysylltu
  • Clwb Senglau’r Selar
  • Gigs
  • Cwcis a phreifatrwydd

Hawlfraint © 2026 Y Selar.

Noddir gan Lywodraeth Cymru
Scroll Up