Malan yn rhyddhau ei sengl Gymraeg gyntaf

Mae Malan wedi rhyddhau ei sengl newydd ar label Recordiau Côsh. ‘Dau Funud’ ydy enw’r trac newydd ganddi, ac er ei bod eisoes wedi hen wneud ei marc gyda’i chyfuniad unigryw o jazz a phop gyda geiriau chwareus a bachog mewn gigs byw ac ar senglau Saesneg, dyma’i sengl gyntaf yn y Gymraeg.

Sengl newydd Siula

Mae’r ddeuawd Siula wedi dychwelyd gyda’u sengl ddiweddaraf sydd allan ar label Libertino. Siula ydy prosiect y cerddorion Iqra Malik a Llion Robertson ac enw eu sengl newydd ydy ‘Llygaid’.