Melda Lois yn rhyddhau ei EP cyntaf
Mae Melda Lois wedi rhyddhau ei EP cyntaf ers dydd Gwener 3 Mai. ‘Symbiosis’ ydy enw’r record fer newydd gan yr artist ifanc o ardal Y Bala ac mae ar gael ar safle Bandcamp label I KA CHING yn unig am y tro.
Mae Melda Lois wedi rhyddhau ei EP cyntaf ers dydd Gwener 3 Mai. ‘Symbiosis’ ydy enw’r record fer newydd gan yr artist ifanc o ardal Y Bala ac mae ar gael ar safle Bandcamp label I KA CHING yn unig am y tro.
Mae’r band roc o Gaerdydd, SYBS, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 3 Mai. ‘Olew Nadroedd’ ydy enw’r albwm sydd allan ar label Recordiau Libertino, ac sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘capsiwl amser teimladwy o’r cyffro a’r pryderon â ddaw ynghyd wrth dyfu fyny.’
Mae’r prosiect cerddorol o Aberystwyth, Ynys, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, gan hefyd gyhoeddi bod albwm newydd ar y ffordd.
Wrth i Eisteddfod yr Urdd Maldwyn agosau, mae label Recordiau Maldwyn wedi rhyddhau trac newydd arbennig i ddathlu ymweliad yr ŵyl a’r ardal.
Mae Lŵp, S4C, wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer sengl ddiweddaraf Georgia Ruth. ‘Duw Neu Magic’ ydy enw’r sengl newydd a ryddhawyd ar 19 Ebrill, a dyma’r ail sengl gan yr artist o Aberystwyth fel rhagflas o’i halbwm nesaf, ‘Cool Head’.
Mae Magi yn ôl gyda’i sengl gyntaf ers 2021 – ‘Cerrynt’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor talentog .
‘Siopa’ ydy enw’r trac diweddaraf i ollwng gan Ffos Goch, sef prosiect y cerddor profiadol Stuart Estell.
Mae rhifyn newydd o gylchgrawn Y Selar wedi’i gyhoeddi ac ar gael yn rhad ac am ddim o’r mannau arferol nawr.
Mae Carwyn Ellis wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 26 Ebril. Llythyr gariad at y cerddor amryddawn o Siapan, Sachiko Kanenobu, yw sengl newydd Carwyn Ellis, ‘Big Sky Love (Song for Sachiko)’.