Sengl Lowri Evans a Ryland Teifi
Mae Lowri Evans wedi rhyddhau ei thrydedd sengl ers dydd Gwener diwethaf, 17 Mai. ‘Allai Byth a Aros’ ydy enw’r trac newydd ganddi sy’n cynnwys yr amryddawn, Ryland Teifi.
Mae Lowri Evans wedi rhyddhau ei thrydedd sengl ers dydd Gwener diwethaf, 17 Mai. ‘Allai Byth a Aros’ ydy enw’r trac newydd ganddi sy’n cynnwys yr amryddawn, Ryland Teifi.
Mae Lŵp, sef platfform cerddoriaeth gyfoes S4C, wedi ffurfio partneriaeth gyda mudiad Cymru Greadigol, Horizons/Gorwelion (BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru) a Chlwb Ifor Bach, ar gyfer cynnal ail ddigwyddiad Showcase Cymru yng ngŵyl gerddoriaeth The Great Escape yn Brighton.
Mae fideo newydd ar gyfer un o ganeuon y band Kim Hon wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau Lŵp, S4C. ‘Milkshek’ ydy enw’r trac dan sylw – un o draciau albwm hunan-deitlog y band a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2023.
Mae artist electronig newydd o Ogledd Cymru, BERIAN, yn paratoi i ryddhau ei sengl gyntaf ddiwedd mis Mai.
Bydd gŵyl gerddoriaeth boblogaidd ger Aberteifi yn cael ei hatgyfodi ym mis Awst eleni. Cynhaliwyd Gŵyl Crug Mawr yn wreiddiol yn Nhir Oernant, ger Aberteifi rhyw ddegawd yn ôl.
Mae’r band ifanc o ardal y Bala, Mynadd, wedi rhyddhau eu sengl newydd ar label Recordiau I KA CHING.
Mae holl gatalog label Crai, sef is-label Sain o 1988 i 2006, bellach ar gael yn ddigidol. Sefydlwyd Crai gan Sain yn 1988 er mwyn rhoi cartref i gerddoriaeth mwy amgen gan fandiau ifanc yn bennaf.
Mae Angharad Rhiannon wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gener diwethaf, 3 Mai. ‘Laru’ ydy enw’r cynnig diweddaraf gan yr artist o Gwm Cynon sydd wedi gweld ei gyrfa’n mynd o nerth i nerth ers i’w halbwm cyntaf, ‘Seren’, gipio gwobr ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar 2022.
Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Ble?, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. ‘Triban’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp addawol ac mae allan ar label annibynnol y band, sef Label Recordio Amhenodol.